Ewch i’r prif gynnwys

Pam fod cleifion canser gydag anableddau sy’n bodoli’n barod, yn sôn nad ydynt yn cael cystal gofal?

26 Hydref 2017

T-cell

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio’r rhesymau pam fod pobl sydd â namau corfforol yn cael mwy o broblemau i gael gafael ar ofal iechyd, mewn cymhariaeth â’r boblogaeth yn gyffredinol.

Bydd yr astudiaeth – sydd wedi’i  hariannu gan Ofal Canser Tenovus – yn edrych ar brofiadau pobl anabl ledled Cymru sydd wedi cael diagnosis am ganser y gellir o bosibl ei wella, a chael triniaeth ar gyfer y canser hwnnw.

Yn ôl Dr Dikaios Sakellariou o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae tystiolaeth bod cleifion canser sydd â namau corfforol hirdymor yn sôn nad ydynt yn cael cystal gofal, ond nid yw'r rhesymau dros hyn yn glir..."

"Drwy ddeall yr heriau sy'n wynebu cleifion canser â namau sy'n bodoli eisoes, gallwn ystyried ffyrdd o deilwra gwasanaethau gofal canser i ddiwallu eu hanghenion penodol."

Dr Dikaios Sakellariou Darllennydd: Astudiaethau Anabledd a Therapi Galwedigaethol

Caiff y wybodaeth a gasglwyd gan yr ymchwilwyr ei defnyddio lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a chreu deunydd hyfforddi, i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fod yn fwy ymwybodol a sensitif i effaith gyfunol anabledd a chanser. Hefyd, bydd recriwtio cyfranogwyr ledled Cymru, ym mhob Canolfan Canser, yn gwneud y boblogaeth hon o gleifion canser yn fwy amlwg.

Er bod ambell astudiaethau wedi cynnig adroddiadau ar brofiadau sgrinio, diagnosis a thriniaeth canser i bobl anabl, roedd yr astudiaethau hynny’n ffocysu ar fathau penodol o ganser, neu namau corfforol penodol. Yn ogystal, ni chynhaliwyd unrhyw un o'r astudiaethau hyn yn y DU, ac nid oedd yn fwriad gan un ohonynt i ddatblygu deunydd hyfforddi, neu gydweithio â chleifion wrth ddatblygu ffyrdd o ddarparu gwasanaethau. Mewn cyferbyniad, bydd yr astudiaeth newydd yn datblygu dealltwriaeth o brofiad pobl o ofal canser, yn archwilio eu blaenoriaethau a'r heriau y maent yn eu hwynebu, â hynny’n berthnasol i bob nam corfforol, a mathau o ganser.

Mae'r tîm ymchwil yn recriwtio drwy gyfrwng y gymuned ar draws Cymru gyfan, gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar: sakellarioud@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.