Ewch i’r prif gynnwys

Cryfhau gwasanaethau mabwysiadu i blant sy'n aros

25 Hydref 2017

Adoption

Bydd Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Plant Dewi Sant yn cydweithio ar brosiect sydd â'r nod o wella gwasanaethau mabwysiadu a sicrhau gwaith effeithiol rhwng asiantaethau.

Gan ddiwallu angen penodol a nodwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, bydd arbenigwyr yn cefnogi Cymdeithas Plant Dewi Sant gyda strategaeth recriwtio newydd i gael hyd i rieni ar gyfer plant lle mae cael rhywun i'w mabwysiadu yn anoddach. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n hŷn na phedair oed, brodyr a chwiorydd, a'r rhai sydd ag anghenion cymhleth neu ansicrwydd meddygol. Bydd staff hefyd yn ceisio sicrhau gwaith rhyngasiantaethol effeithiol rhwng y sector statudol a'r sector gwirfoddol.

Asiantaeth fabwysiadu wirfoddol yw'r Gymdeithas, ac mae'n recriwtio, cymeradwyo ac yn cefnogi teuluoedd sy'n cynnig cartrefi parhaol i blant sydd angen rhywun i'w mabwysiadu. Mae'r asiantaeth yn bartner yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a hi yw'r asiantaeth fabwysiadu hynaf yng Nghymru – mae wedi lleoli mwy na 2,000 o blant.

Bydd staff yn gweithio gydag arbenigwyr y Brifysgol i ddatblygu gwasanaethau hynod arloesol sy'n arwain y sector, sydd wedi eu seilio ar anghenion a nodwyd yn genedlaethol. Bydd y tîm – sy'n cynnwys cydweithwyr o Barnardo's, Adoption UK ac After Adoption – yn canolbwyntio ar ddatblygu ymyriadau amserol gyda'r nod cyffredinol o sicrhau nad yw sefyllfaoedd sy'n codi yn troi'n argyfwng teuluol.

Trosglwyddo gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r fenter gydweithredol yn llawn fel Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth – cynllun lle mae myfyriwr sydd wedi graddio o'r brifysgol (neu unigolyn cyswllt) yn defnyddio arbenigedd academaidd i helpu sefydliad allanol.

Bydd yr unigolyn cyswllt ar gyfer y prosiect hwn – Coralie Merchant – yn cael ei goruchwylio ar y cyd gan ddau arbenigwr academaidd, fydd yn galluogi'r Gymdeithas i fanteisio ar arbenigedd trawsddisgyblaethol.

Arweinwyr y prosiect yw Dr Katherine Shelton, o'r Ysgol Seicoleg, a Dr Jane Lynch, o Ysgol Busnes Caerdydd. Mae Dr Shelton yn arbenigo mewn Seicoleg Datblygu, ac yn canolbwyntio ar sut mae seicopatholeg ddatblygol yn ymddangos ac yn parhau mewn cyd-destunau cymdeithasol yn ystod plentyndod a glaslencyndod. Mae Dr Lynch yn arbenigo mewn caffael cymdeithasol, manteision caffael lleol i gymunedau, consortia cyflenwyr, a chydweithio effeithiol.

"Mae hwn yn gyfle cyffrous i uno dau faes academaidd: seicoleg a rheoli busnes."

Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Bydd Dr Cerith Waters, o'r Ysgol Seicoleg hefyd, yn cynnig arbenigedd clinigol ychwanegol mewn perthynas ag anghenion therapiwtig plant sy'n agored i niwed.

Dywedodd Coralie: "Rydw i wrth fy modd i fod yn rhan o'r prosiect arloesol hwn fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau teuluoedd sydd wedi mabwysiadu yng Nghymru. Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle unigryw i rannu gwybodaeth y Brifysgol i helpu'r sector gwirfoddol a statudol i gydweithio. Rwy'n gyffrous i chwarae rhan yn ei ddatblygiad ac i weld yr effaith gadarnhaol ar blant sy'n agored i niwed."

"Effaith sy'n para"

Dywedodd Wendy Keidan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymdeithas Plant Dewi Sant: "Rydym wrth ein bodd i gael cyfle i fod mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd yn y prosiect arloesol hwn. Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig platfform ar gyfer trefniadau cydweithredol arloesol yn y sector gwirfoddol a statudol fydd yn gwella'r canlyniadau i rai o'n plant sydd fwyaf agored i niwed."

Dywedodd Dr Shelton: "Mae'r prosiect yn ymateb uniongyrchol i ymchwil o Gymru sy'n tynnu sylw at anghenion cefnogaeth teuluoedd sydd wedi mabwysiadu, ac i'r heriau penodol sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i leoli plant sy'n agored i niwed gyda darpar fabwysiadwyr..."

"Ein nod ar gyfer y prosiect hwn yw cael effaith barhaol ar gapasiti'r sector mabwysiadu."

Yr Athro Katherine Shelton Senior Lecturer

Ychwanegodd Dr Lynch: "Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi Dr Shelton a Chymdeithas Plant Dewi Sant a thrwy gael golwg newydd ar y broses caffael gyhoeddus, rwy'n gobeithio y gallwn helpu i wella bywydau plant sydd, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, yn cael eu lleoli i'w mabwysiadu yng Nghymru."

Mae'r Brifysgol wedi cefnogi Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ers dros ddeugain mlynedd, gan helpu dros 250 o gwmnïau ledled y byd. Roedd prosiect blaenorol y bu Dr Shelton yn rhan ohono wedi creu pecyn cymorth ar gyfer yr elusen digartrefedd, Llamau, i gefnogi pobl ifanc.