Ewch i’r prif gynnwys

Mae ymchwil newydd yn dangos bod rhaniadau dwfn yn parhau ynghylch Brexit

26 Hydref 2017

EU, UK and Wales flags

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd yn datgelu bod rhaniadau dwfn yn dal i fodoli rhwng pleidleiswyr Aros ac Ymadael yn Refferendwm Brexit Mehefin 2016, ac nad oes consensws yn dod i’r amlwg ymhlith pobl Cymru o ran proses Brexit.

Mae’r ymchwil ar Brexit ac agweddau'r cyhoedd yng Nghymru yn rhan o waith y Ganolfan yn archwilio Brexit a gwleidyddiaeth ddatganoledig a dyma’r archwiliad manylaf o farn y cyhoedd yng Nghymru am Brexit, dros flwyddyn wedi’r refferendwm pryd y pleidleisiodd Cymru dros Ymadael.

Mae data o arolwg academaidd pwysig o’r cyhoedd yn dangos bod rhaniadau dwfn yn parhau rhwng pleidleiswyr Aros ac Ymadael ynghylch Brexit: nid yn unig o ran yr hyn y maen nhw am ei weld yn digwydd, ond hefyd o ran canlyniadau Brexit yn eu barn nhw, a hyd yn oed sut dylid rheoli proses Brexit.

Mae’r data’n dangos:

  • Nad oes consensws ynghylch pa fath o gytundeb y dylai’r Deyrnas Unedig ei cheisio gyda'r UE. Byddai’r mwyafrif o bleidleiswyr Ymadael (78%) yn hoffi gweld y Deyrnas Unedig yn adennill rheolaeth lawn dros sut llywodraethir Prydain a phwy sy’n gallu byw yn y Deyrnas Unedig, hyd yn oed petai hynny’n golygu bod heb berthynas fasnach rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd.  Mewn cyferbyniad, mae tua 63% o’r pleidleiswyr Aros naill ai am i Brydain aros yn yr UE wedi’r cyfan (41%) neu am gadw cysylltiadau agos trwy aelodaeth gyswllt (22%).
  • Pan ofynnwyd a fydden nhw’n bersonol mewn sefyllfa well neu waeth o ganlyniad i Brexit, nid oedd yn syndod bod 73% o’r rhai oedd am Aros yn credu y byddent mewn sefyllfa waeth, o gymharu ag 17% yn unig o’r rhai oedd am Ymadael.  Mae’r rhan fwyaf o Ymadawyr (53%) yn teimlo na fydd gwahaniaeth canfyddadwy, er bod bron traean ohonynt (30%) yn credu y byddan nhw’n bersonol mewn sefyllfa well ar ôl Brexit.
  • Gwelir canfyddiadau tebyg wrth holi am ganlyniadau Brexit i Gymru, gan fod 82% o’r Arhoswyr yn credu y bydd y genedl mewn sefyllfa waeth, o gymharu â 24% yn unig o’r Ymadawyr.  Unwaith eto mae mwyafrif yr Ymadawyr (52%) yn disgwyl na fydd gwahaniaeth amlwg, tra bod 24% ohonynt yn meddwl y bydd Cymru mewn sefyllfa well.

"Nid oes fawr ddim arwyddion o gonsensws yn dod i’r amlwg o ran barn y cyhoedd am Brexit: nid ydym yn dod at ein gilydd, fel mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu."

Brexit a meysydd polisi allweddol

Holwyd barn yr ymatebwyr hefyd ynghylch effaith gadael yr UE ar feysydd polisi allweddol, gan gynnwys diweithdra, mewnfudo, dylanwad byd-eang Prydain a faint mae’r llywodraeth yn ei wario ar y GIG. Roedd y data’n dangos:

  • Ar fater diweithdra, bod mwyafrif y pleidleiswyr Ymadael (60%) yn disgwyl i ddiweithdra aros rywbeth yn debyg i’r hyn ydyw yn awr, ond bod rhyw 30% yn credu y bydd yn gostwng ar ôl Brexit. Nid oes braidd neb o blith y pleidleiswyr Aros yn credu y bydd diweithdra’n gostwng: mae’r mwyafrif (54%) yn credu y bydd yn uwch, ac mae 39% arall yn meddwl y bydd yn aros tua’r un lefel.
  • O droi at fewnfudo i’r Deyrnas Unedig, mae mwyafrif yr Ymadawyr (70%) yn disgwyl gweld mewnfudo’n lleihau, ond dim ond 30% o’r Arhoswyr sy’n credu y bydd mewnfudo’n lleihau - mae 63% ohonynt yn disgwyl iddo barhau tua’r un fath.
  • Ar fater dylanwad byd-eang Prydain, ychydig iawn o bleidleiswyr Ymadael (10%) sy’n credu y bydd gan Brydain lai o ddylanwad ar ôl Brexit, o'i gymharu â 68% o bleidleiswyr Aros sy'n disgwyl y bydd lle Prydain yn y byd yn gwanhau.
  • A pan ddaw’n fater o drafod a fydd mwy neu lai o arian yn cael ei wario ar y GIG pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE, dim ond 11% o’r pleidleiswyr Ymadael oedd yn meddwl y byddai hynny’n lleihau, o gymharu â 50% llawn o’r pleidleiswyr Aros.  Ychydig iawn o’r Arhoswyr sy’n credu y bydd mwy o arian yn dod i’r GIG ar ôl Brexit (6%, o’i gymharu â 35% o bleidleiswyr Ymadael).

Pan ofynnwyd iddynt beth hoffen nhw ei weld yn digwydd wedi i’r trafodaethau ddod i ben, eto nid oes unrhyw gonsensws ymhlith y pleidleiswyr. Credai'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Ymadael y dylai unrhyw gytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE naill ai gael ei weithredu ar unwaith (40%) neu ei weithredu yn dilyn pleidlais yn ei gadarnhau yn senedd y Deyrnas Unedig.

Mewn cyferbyniad, mae mwyafrif o’r rhai a bleidleisiodd dros Aros yn 2016 yn dymuno gweld naill ai ail refferendwm i gymeradwyo cytundeb (33%), neu'n meddwl y dylai senedd y Deyrnas Unedig a seneddau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon orfod cymeradwyo unrhyw fargen.

Pleidleiswyr dros Adael yn y Cymoedd

Roedd ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru i farn y cyhoedd ynghylch Brexit hefyd yn cynnwys yr astudiaeth ansoddol fanwl gyntaf o bleidleiswyr Ymadael dosbarth gweithiol yng Nghymoedd y De. Mae’r cymoedd wedi derbyn cymorth helaeth o Gronfeydd Strwythurol yr UE yn ystod y cyfnod diweddar - ac eto pleidleisiodd pawb ohonynt dros Ymadael, y rhan fwyaf â mwyafrif sylweddol.  Mae grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phleidleiswyr Ymadael dosbarth gweithiol yn awgrymu (yn unol â’r polau piniwn) mai ychydig iawn o bleidleiswyr Ymadael sydd wedi newid eu meddwl ynghylch Brexit ers y refferendwm.

Canfu’r grwpiau ffocws hefyd:

  • Fod gelyniaeth sylweddol yn parhau ymhlith llawer o’r pleidleiswyr hyn tuag at fewnfudo, a’u bod yn cyfeirio’n benodol ar broblemau mewnfudwyr yn cymryd swyddi pobl leol ac yn gyrru’r cyflogau i lawr - er budd y cyflogwyr yn hytrach na’r gweithwyr cyffredin;
  • Roedd cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn amheus iawn ynghylch y gosodiad bod Cymru’n elwa o gyllideb yr UE.  A’r farn ynghylch llawer o’r gwariant UE yn y cymoedd oedd eu bod yn ‘brosiectau balchder’ gwastraffus.
  • Mae llawer o bleidleiswyr Ymadael yn disgwyl y gallai Brexit achosi problemau yn y tymor byr, ond maent yn disgwyl y bydd yn werth chweil yn y tymor hwy.

Wrth sôn am y gwaith ymchwil, dywedodd yr Athro Scully:  "Mae’r gwaith ymchwil hwn, a ariannwyd yn uniongyrchol gan Brifysgol Caerdydd, yn rhoi i ni’r ddealltwriaeth fwyaf manwl hyd yma o farn y cyhoedd ynghylch Brexit yng Nghymru. Nid yw'r darlun a gyfleir ganddo yn un cadarnhaol.

"Nid oes fawr ddim arwyddion o gonsensws yn dod i’r amlwg o ran barn y cyhoedd am Brexit: nid ydym yn dod at ein gilydd, fel mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu; yn hytrach mae’r rhaniadau dwfn rhyngom yn parhau.  Nid yn unig mae Arhoswyr ac Ymadawyr mis Mehefin y llynedd am gael gwahanol bethau yn sgîl Brexit. Maent hefyd yn disgwyl i bethau gwahanol ddigwydd o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r UE. Mae ganddyn nhw hyd yn oed farn wahanol ynghylch y broses wleidyddol - ynghylchsut dylai Brexit ddigwydd."

Rhannu’r stori hon

Nod blog Brexit a Chymru yw llywio ac annog trafodaethau a gwaith dadansoddol adeiladol am faterion sy'n gysylltiedig â Chymru ac ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.