Ewch i’r prif gynnwys

Plant ysgol yn cynllunio gwareiddiad newydd ar y blaned Mawrth mewn digwyddiad estyn allan gan y Brifysgol

20 Hydref 2017

STEM outreach event

Roedd disgyblion ysgol uwchradd o bob rhan o dde Cymru'n gwneud cynlluniau i sefydlu ar y blaned Mawrth ddoe fel rhan o ddigwyddiad estyn allan blynyddol STEMLive Prifysgol Caerdydd.

Cofrestrwyd tua 130 o fyfyrwyr Blwyddyn 8 o 11 ysgol ar draws y rhanbarth mewn asiantaeth ddirgel ffug, y Weinyddiaeth Damcaniaeth Oleuedig a Sgiliau, ac fe'u harweiniwyd drwy nifer o weithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

O effaith sbwriel gofodol, i raglennu crwydrwyr ac adeiladu tai cynaliadwy, cafodd y myfyrwyr olwg ar yr heriau a'r cyfleoedd a fyddai'n cyflwyno eu hunain pe baent yn gosod trefedigaeth ar y blaned Mawrth, gan ddysgu sgiliau gwyddonol a gwybodaeth hanfodol ar y ffordd.

Arweiniwyd y gweithgareddau gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd ar draws Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd, ynghyd ag ymchwilwyr o'r amgueddfa.

Bwriad STEMLive, a redir mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yw mynd â myfyrwyr allan o'r ystafell ddosbarth i amgylchedd ble gallant brofi cymwysiadau bywyd real eu hastudiaethau.

Dywedodd athrawon fod y diwrnod wedi 'ysbrydoli disgyblion na fyddent fel arfer yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth' a'i fod yn 'gyfle rhagorol i ddangos i ddysgwyr ehangder a chyfleoedd gyrfa mewn disgyblaethau peirianneg a gwyddoniaeth.'

Mae'r gweithgareddau wedi'u cynllunio i ddangos bod gwyddoniaeth a mathemateg yn agor cyfleoedd gyrfa, gan ddatblygu sgiliau a all arwain at yrfaoedd cyffrous mewn amrywiaeth eang o feysydd ar draws y byd.

Roedd nifer o gynrychiolwyr diwydiant hefyd yn bresennol yn ystod y dydd, yn mwynhau awyrgylch y gweithgareddau oedd i'w gweld ac edrych ar ffyrdd y gallent o bosibl gefnogi'r digwyddiad yn y dyfodol.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â gwyddoniaeth a thechnoleg yn fyw. Rydym am ysbrydoli pobl ifanc i ymgysylltu â phynciau STEM, ac mae cynnig diwrnod o weithgareddau mor gyffrous a chynhwysfawr yn ffordd wych o wneud hyn."

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Datblygwyd STEMLive fel rhan o Gynllun Partneriaeth Prifysgol-Ysgolion Prifysgol Caerdydd, a ariennir gan Gynghorau Ymchwil y DU.

Rhannu’r stori hon

Yn ogystal â chreu prosiectau a phartneriaethau gyda chymunedau, rydym hefyd yn croesawu’r cyhoedd i nifer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau.