Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi'r ymdrechion yn Nepal ar ôl y trychineb

28 Ebrill 2015

Map showing location of Nepal

Rhaglen arloesol sy'n gallu asesu'r perygl o dirlithriad mewn amser real

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn helpu'r ymdrechion achub yn Nepal ar ôl y daeargryn dinistriol ddydd Sadwrn, drwy asesu'r perygl o dirlithriadau pellach mewn amser real.

Mae Dr Robert Parker a'i dîm o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu rhaglen unigryw o'r enw ShakeSlide.

Mae'r rhaglen gyfrifiadurol yn rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i dimau asesu trychinebau wrth roi asesiadau iddynt ar ôl daeargrynfeydd.

Mae sefydliadau fel Banc y Byd a MapAction bellach yn cydweithio'n uniongyrchol â Dr Parker, gan weithio ochr yn ochr â'r timau asesu trychinebau.

Dywedodd Dr Parker: "Roedd y daeargryn yn Nepal ddydd Sadwrn yn un o ranbarthau'r byd sydd fwyaf mewn perygl o dirlithriadau.

"Disgwylir i berygl tirlithriadau gyfrif am gyfran sylweddol o'r colledion a'r difrod yn sgîl y digwyddiad hwn. Mae ShakeSlide yn rhoi rhagfynegiad o'r radd flaenaf o'r tebygolrwydd y bydd tirlithriad yn cael ei achosi yn y rhanbarthau y mae symudiadau seismig yn effeithio arnynt. Mae'n defnyddio data symudiad y tir gan Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau i wneud hyn.

"Mae'r rhagfynegiadau'n seiliedig ar ddadansoddiad ystadegol o batrymau gofodol tirlithriadau a achoswyd gan sampl o ddaeargrynfeydd mawr yn UDA, Seland Newydd, Taiwan a China.

"Mae'r rhagfynegiadau model yn rhoi asesiad cyflym o'r radd flaenaf o'r perygl y bydd daeargryn yn achosi tirlithriad. Ar hyn o bryd, maent yn cael eu defnyddio i arwain yr ymdrechion i fapio'r difrod yn sgîl tirlithriadau a achoswyd gan y daeargryn yn Nepal ddydd Sadwrn."

Defnyddir rhagfynegiadau rhagarweiniol Dr Parker ar lawr gwlad i gynorthwyo'r ymdrechion ar ôl y trychineb.

Mae'r wybodaeth yn helpu asiantaethau cymorth i asesu graddau'r difrod ar draws degau o filoedd o gilometrau sgwâr lle mae effeithiau'r daeargryn i'w gweld.

Rhannu’r stori hon