Ewch i’r prif gynnwys

Safbwyntiau Cristnogol ar farwolaeth a marw

17 Hydref 2017

Death and dying

Mae’r broses o ddod i benderfyniadau ar ddiwedd oes yn mynd yn fwy cymhleth, gyda datblygiadau mewn technolegau meddygol – a bydd nifer ohonom yn marw heb y gallu i wneud y penderfyniadau hynny drosom ein hunain ar y pryd.

Mae’n dod yn fwyfwy cydnabyddedig bod angen i ni drafod y modd yr ydym yn ymdrin â marwolaeth fel unigolion, teuluoedd a chymdeithas – a bod y trafodaethau hynny’n bwysig nawr. Sut gallwn ni annog myfyrio o'r fath, ac archwilio ‘Safbwyntiau Cristnogol’ ar y materion hyn? A sut y gall eglwysi helpu?

Mae adnodd newydd i gefnogi sgyrsiau o’r fath ar gael nawr yn www.christiandying.org.uk. Yn seiliedig ar fenter ecwmenaidd blwyddyn o hyd, sy'n cynnwys chwe chynhadledd ledled Cymru a Lloegr, mae'r adnodd yn dwyn ynghyd cyflwyniadau wedi’u recordio, gan arbenigwyr ymarferol, cyfreithiol, meddygol a diwinyddol. Y nod yw cefnogi clerigwyr a chynulleidfaoedd i ddysgu am faterion allweddol, a chychwyn ar eu trafodaethau eu hunain. Mae'r pynciau o dan sylw yn cynnwys:

  • Sut mae gwerthoedd, credoau a ffydd grefyddol pobl yn llywio’u dymuniadau ynglŷn â’u gofal ar ddiwedd eu hoes?
  • Beth yw ‘Penderfyniad Ymlaen Llaw’ a beth yw’r gwahanol safbwyntiau Cristnogol ynghylch gwrthod triniaeth sy'n ymestyn bywyd?
  • Beth yw’r dadleuon cymdeithasol, moesegol a diwinyddol ynghylch ‘Cymorth i Farw’ mewn gweithred?

Prifysgol Caerdydd sydd wedi arwain y fenter ecwmenaidd, ac elusen fechan wedi’i lleoli yng Nghaerefrog – The Parismen CIO – sydd wedi’i hariannu.

Mae’r Athro Jenny Kitzinger o Brifysgol Caerdydd yn arbenigo mewn anawsterau cyfreithiol a moesegol sy'n wynebu teuluoedd sy'n rhan o'r broses o wneud penderfyniadau diwedd oes Yn ei hôl hi: “Mae'r fenter newydd hon, ‘Safbwyntiau Cristnogol ar Farwolaeth a Marw’ yn rhan o fudiad rhyngwladol i fynd i'r afael â heriau a godir gan feddygaeth yr 21ain ganrif, ac mae’n myfyrio ar faterion moesegol a chymdeithasol yr ydym oll yn eu hwynebu.

"Mae'r adnodd hwn yn cynnig cyfle i fyfyrio ar werthoedd a chredoau, a’r modd y maent yn llunio’r dewisiadau a wnawn. Gyda lwc, bydd yr adnodd hwn yn rhoi gwybodaeth hanfodol am ddewisiadau diwedd bywyd ac yn agor y sgwrs am farwolaeth."

Yr Athro Jenny Kitzinger Cyfarwyddwr Ymchwil: Effaith ac Ymgysylltu, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Caerdydd-Efrog ynghylch Anhwylderau Ymwybyddiaeth Cronig

Mae’r prosiect wedi’i gydlynnu gan Julie Latchem, Gwyddonydd Cymdeithasol a ffisiotherapydd niwrolegol ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae hi’n cynnig y sylwadau canlynol: “Cawsom ein calonogi gan faint y diddordeb gan y gymuned Gristnogol. Dywedodd llawer o bobl wrthym yr hoffen nhw weld marwolaeth yn cael ei drafod yn amlach ac yn fwy agored.

Yn ôl Gareth Morgan, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Paristamen CIO: "Mae marwolaeth a marw yn themâu canolog i Gristnogion, ac yn codi materion moesegol dwys. Fodd bynnag, gall gagendor fodoli rhwng safbwyntiau swyddogol yr Eglwys a rhai Cristnogion cyffredin. Dyna pam ein bod wedi cynnig arian ar gyfer prosiect i hyrwyddo ymgysylltiad ehangach â’r cwestiynau hyn. Rydym wrth ein bodd gyda'r hyn a y mae’r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i gyflawni gyda’r prosiect ac yn gobeithio y bydd eglwysi yn gwneud cryn ddefnydd o’r adnoddau sydd bellach ar gael yn www.christiandying.org.uk."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.