Ewch i’r prif gynnwys

Brexit a’r gwledydd datganoledig

17 Hydref 2017

Wales Governance Centre Brexit event

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru y Brifysgol wedi cyd-drefnu digwyddiad ym Mrwsel i drin a thrafod y gwahanol safbwyntiau ynghylch Brexit gan wledydd datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r ddeialog ynghylch polisi – Barn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynghylch Brexit  – yn cael ei gynnal heddiw (17 Hydref 2017) ac wedi’i drefnu ar y cyd â’r Ganolfan Bolisïau Ewropeaidd.

Y siaradwyr yn y digwyddiad, a gynhelir yn y Ganolfan Bolisïau Ewropeaidd, yw Mark Drakeford AC ac (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol), Michael Russell ASA (Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Le’r Alban yn Ewrop), yr Athro Cathy Gormley-Heenan (Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Queens Belfast), a Fabian Zuleeg (Prif Weithredwr a'r Phrif Economegydd y Ganolfan Bolisïau Ewropeaidd), a fydd yn cadeirio.

Yn ôl Dr Rachel Minto o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Ymunodd y DU â’r UE ym 1973, ymhell cyn sefydlu Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Wrth i’r DU drafod gadael yr UE, nid yn unig mae tair o’i wledydd cyfansoddol wedi’u datganoli, ond mae aelodaeth o’r UE  yn rhan annatod o setliadau datganoli’r dair wlad honno.

"Mae Brexit wedi amlygu rhaniadau a gwahaniaeth barn amlwg ar hyd y llinellau tiriogaethol hynny, ac nid yw’n ymddangos fel y gellir cysoni safbwyntiau’r llywodraethau ac agweddau cyferbyniol y cyhoedd ar draws pedair gwlad y DU.

“Yn y deialog hwn ynghylch polisi, bydd ein panel aml-wlad yn trafod y gwahanol safbwyntiau ynghylch Brexit yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y panel yn ymddatod yr hyn sy’n cael ei ffafrio’n wleidyddol, ac o ran polisi, o fewn y DU, a hynny ar adeg yn dilyn Etholiad Cyffredinol, ac yng nghyd-destun y cyfnod o ddwy flynedd o drafod, sy’n prysur fynd rhagddo.”

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.