Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth i'r Ysgol Mathemateg am hyrwyddo cydraddoldeb rhyw

27 Ebrill 2015

Athena Swan bronze award

Mae'r Ysgol Mathemateg wedi ennill gwobr genedlaethol i gydnabod ei hymrwymiad at hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn addysg uwch.

Mae gwobrau Athena SWAN yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb yn cydnabod ac yn dathlu arferion cyflogaeth da ar gyfer menywod sy'n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM). Llwyddodd yr Ysgol Mathemateg gyda'i chais am Wobr Efydd.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Tim Phillips: "Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn bod yr ysgol wedi llwyddo i ennill gwobr efydd Athena SWAN.

"Nid yw'r wobr yn cydnabod cyflawniad. Yn hytrach, mae'n cydnabod ein hymrwymiad at hyrwyddo gyrfaoedd academyddion benywaidd mewn mathemateg a chefnogi datblygiad pob aelod o staff ar wahanol adegau o'u gyrfaoedd. Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl weithgareddau."

Ychwanegodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Braf iawn oedd clywed bod yr Ysgol Mathemateg wedi llwyddo i ennill gwobr efydd SWAN. Mae'n ei haeddu'n fawr.

"Rydym yn gwybod nad oes digon o fenywod wedi'u cynrychioli mewn pynciau STEMM yn draddodiadol. Mae'r prosesau sy'n gysylltiedig â chyflwyno cais am wobrau Athena SWAN yn ein galluogi i adolygu a sefydlu arferion gwaith da fel ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i chwalu rhwystrau a pharhau i ddenu, cefnogi, datblygu a hyrwyddo'r staff academaidd gorau.

"Ein nod nawr yw parhau i ledaenu arferion da ar draws holl bynciau STEMM y Brifysgol."

Rhannu’r stori hon