Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect y Brifysgol yn cefnogi gwyddonwyr y dyfodol yn Affrica

24 Ebrill 2015

Nimibian staff members stood in row outside Cardiff School of Maths
Academics from The University of Namibia Maths department

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn cefnogi gwyddonwyr y dyfodol yn Affrica sy'n methu graddio oherwydd diffyg sgiliau mathemateg.

Mae Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â phrifysgolion yn Namibia fel rhan o Brosiect Phoenix, un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol.

Rhaid i bron pob un o'r myfyrwyr sy'n astudio gradd gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Namibia (UNAM) ennill cymhwyster mathemateg yn eu blwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, mae nifer helaeth yn rhoi'r gorau i'r cwrs oherwydd diffyg sgiliau a gwybodaeth fathemategol.

Oherwydd hynny, mae darpar wyddonwyr a allai wneud gwaith hanfodol yn Namibia yn methu cyrraedd y safon.

Mae hyn yn effeithio ar Wyddoniaeth yn ogystal ag adrannau Peirianneg a TG, Addysg, ac Amaethyddiaeth a Gwyddorau Naturiol.

Meddai'r Athro Tim Phillips, Pennaeth Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae Prosiect Phoenix yn rhoi cyfle i'r Ysgol feithrin partneriaeth gyda'r adran fathemateg ym Mhrifysgol Namibia sydd o fudd i bawb.

"Drwy gydweithio, rydym yn ystyried strategaethau addysgu arloesol i fynd i'r afael â chynnydd myfyrwyr a meithrin gwell dealltwriaeth o dechnoleg ffynhonnell agored.

"Bydd ein myfyrwyr mathemateg a staff yn Namibia a Chaerdydd yn elwa'n broffesiynol, yn wyddonol ac yn ddiwylliannol o ganlyniad i gymryd rhan ym Mhrosiect Phoenix."

Mae tri academydd o adran fathemateg UNAM yn ymweld â Chaerdydd i drafod sut gall y ddwy brifysgol gydweithio.

Mae'r cynigion yn cynnwys ysgol haf i helpu myfyrwyr gwyddoniaeth i wella eu sgiliau mathemateg cyn iddynt ddechrau eu blwyddyn gyntaf yn UNAM.

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys manteisio ar adnoddau ar y we a hybu arferion addysgu. Mae cyfle hefyd i'r ddwy brifysgol gydweithio mewn meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i'r ddau sefydliad.

Mae UNAM hefyd yn bwriadu sefydlu canolfan fathemateg a chymwysiadau ar ei champws ym mhrifddinas Namibia, Windhoek.

Meddai Dr Martin Mugochi, Pennaeth Mathemateg UNAM: "Rwy'n credu bydd y cydweithrediad hwn â Chaerdydd yn gam pwysig iawn tuag at wneud gwahaniaeth mawr.

"Mae'n gysylltiad gwych a ddylai gael ei annog i dyfu."

Dywedodd yr Athro Judith Hall, sy'n arwain Prosiect Phoenix: "Hyd yn oed os na chawsom ein geni'n fathemategwyr, mae gwir angen mathemateg arnom o hyd.  

"Does dim modd adeiladu safle ynni solar heb fathemateg, na bod yn nyrs neu'n fferyllydd heb fathemateg.  

"Yn aml, nid yw pobl ifanc yn Namibia wedi cael y cyfleoedd sydd gennym ni yng Nghymru, felly maent yn methu eu cyrsiau mathemateg.  

"Diben y prosiect hwn yw eu helpu i lwyddo mewn mathemateg. Wedyn, gallant weithio i wneud gwahaniaeth yn eu gwlad eu hunain."

Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.

Mae gan staff o dri Choleg Prifysgol Caerdydd rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol mewn meysydd fel llyfrgelloedd ac adnoddau dynol.

Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes cyffredinol: menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol yng Nghaerdydd a Merthyr, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.