Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwad y genynnau ar oroesi canser y coluddyn

24 Ebrill 2015

Swirl of colourful chromosomal diagram

Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr o Gymru wedi dangos bod amrywiadau genetig cyffredin a etifeddir yn dylanwadu ar ddisgwyliad oes ymhlith cleifion â chanser y coluddyn (CRC).

Dadansoddodd tîm o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd dros 7,600 o gleifion gyda CRC o 14 o ganolfannau gwahanol ar draws y DU a'r Unol Daleithiau. Daeth i'r amlwg iddynt fod cysylltiad cryf rhwng amrywiad genetig yng ngennyn CDH1 (amgodio E-cadherin) a goroesi.

Drwy gyfuno data o'r amrywiadau genetig a etifeddir ac amrywiadau sydd wedi'u canfod mewn mathau o ganser, mae gwyddonwyr o'r farn y bydd gan y wybodaeth y maent wedi'i chanfod rôl hollbwysig wrth reoli cyfraddau goroesi cleifion.

Yn ôl arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Jeremy Cheadle o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae ein canfyddiadau'n dangos bod cyfradd goroesi cleifion sydd â'r amrywiad genetig penodol, a welir mewn tua 8% o gleifion, yn is a bod disgwyl iddynt fwy tua 4 mis yn llai yng nghyfnod mwyaf dwys y clefyd."

Meddai Dr Lee Campbell, Rheolwr Cyfathrebu Ymchwil a Phrosiectau Gwyddoniaeth o Ymchwil Canser Cymru, a ariannodd yr astudiaeth yn rhannol: "Mae'r gwaith hwn yn dangos sut gellir defnyddio amrywiolion genetig i roi gwybodaeth o ddefnydd clinigol i gleifion sy'n dioddef canser y coluddyn.

"Bydd y darn pwysig hwn o ymchwil yn galluogi clinigwyr i wneud penderfyniadau mwy hyddysg am driniaeth ar gyfer unigolion yn y dyfodol, yn ogystal â gwella rhaglenni sgrinio cyfredol neu wyliadwriaeth ar ôl llawdriniaeth ar gyfer y clefyd hwn."          

Ychwanegodd Dr Ian Lewis, Cyfarwyddwr Ymchwil a Pholisïau yng Ngofal Canser Tenovus, sydd hefyd wedi ariannu'r astudiaeth hon: "Mae hwn yn gam cyntaf pwysig er mwyn gwella canlyniadau i gleifion canser y coluddyn drwy ddeall y ffactorau genetig dylanwadol yn well. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu helpu i ariannu'r gwaith pwysig hwn."

Cefnogwyd yr ymchwil gan Gronfa Bobby Moore o Ymchwil Canser y DU, Gofal Canser Tenovus, Ymddiriedolaeth Kidani, Ymchwil Canser Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd, ac Uned Ymchwil Biofeddygol Geneteg Canser (2011-2015).

Gallwch weld yr adroddiad llawn ymlaen llaw yn Clinical Cancer Research

Rhannu’r stori hon