Ewch i’r prif gynnwys

Darganfyddiad asthma "hynod gyffrous"

23 Ebrill 2015

Professor Daniela Riccardi
Professor Daniela Riccardi

Gwyddonwyr yn canfod gwraidd posibl asthma a thriniaeth newydd

Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi amlygu gwraidd posibl asthma yn ogystal â chyffur parod sy'n cynnig triniaeth newydd.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Science Translational Medicine, mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n cydweithio â gwyddonwyr yn King's College Llundain a'r Mayo Clinic (UDA), yn disgrifio rôl y derbynnydd synhwyro calsiwm (CaSR) wrth achosi asthma, sef clefyd sy'n effeithio ar 300 miliwn o bobl ar draws y byd. Nid oedd rôl y derbynnydd hwn wedi'i phrofi hyd yma.

Defnyddiodd y tîm fodelau llygod o asthma a feinwe'r llwybrau anadlu dynol gan bobl ag asthma a rhai nad ydynt yn asthmatig i ddod at eu canfyddiadau.

Yn anad dim, mae'r papur yn amlygu pa mor effeithiol yw cyffuriau calcyliteg wrth ddefnyddio'r CaSR i wrthdroi'r holl symptomau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys culhau'r llwybrau anadlu a gwayw neu lid yn y llwybrau anadlu. Mae pob un o'r rhain yn ei gwneud yn anodd anadlu.

"Mae ein canfyddiadau'n hynod gyffrous," meddai'r prif ymchwilydd, yr Athro Daniela Riccardi, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd. "Am y tro cyntaf, rydym wedi canfod cysylltiad rhwng llid yn y llwybrau anadlu, sy'n gallu cael ei achosi gan ffactorau amgylcheddol - fel alergenau, mwg sigarét a mygdarth ceir – a gwayw yn y llwybrau anadlu mewn asthma alergaidd.

"Mae ein papur yn dangos sut mae'r ffactorau hyn yn rhyddhau cemegau sy'n ysgogi'r CaSR ym meinwe'r llwybrau anadlu ac yn achosi symptomau asthma fel gwayw, llid neu gulhau'r llwybrau anadlu. Drwy ddefnyddio cyffuriau calcilyteg, wedi'i nebiwleiddio'n uniongyrchol yn yr ysgyfaint, rydym yn dangos bod modd dadysgogi'r CaSR ac atal pob un o'r symptomau hyn."

Yn ôl Dr Samantha Walker, Cyfarwyddwr Ymchwil a Pholisïau Asthma UK, a helpodd i ariannu'r ymchwil:

"Mae'r darganfyddiad hynod gyffrous hwn yn ein galluogi i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol symptomau asthma am y tro cyntaf erioed. Nid yw pump y cant o'r bobl ag asthma yn ymateb i driniaethau cyfredol. Felly, gall darganfyddiadau ymchwil newid bywydau cannoedd o filoedd o bobl.

"Os bydd y gwaith ymchwil hwn yn llwyddiannus, hwyrach y gallwn greu triniaeth newydd ar gyfer asthma dros y blynyddoedd nesaf, ac mae angen mwy o fuddsoddiad arnom ar frys er mwyn ei threialu'n glinigol. Prin iawn yw'r arian ar gyfer gwaith ymchwil i asthma; gellir cyfrif ar un llaw faint o driniaethau newydd sydd wedi'u datblygu dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf. Felly, mae buddsoddi mewn gwaith ymchwil fel hwn yn gwbl hanfodol."
Mae'r Athro Riccardi a'i chydweithwyr bellach yn chwilio am arian i weld pa mor effeithiol yw cyffuriau calcilyteg wrth drin mathau o asthma sy'n arbennig o anodd eu trin, yn enwedig asthma sy'n gwrthsefyll steroidau ac asthma sy'n gwaethygu o ganlyniad i'r ffliw. Treialu'r cyffuriau hyn gyda chleifion sydd ag asthma fyddai'r nod.

Cafodd cyffuriau calcalyteg eu datblygu'n wreiddiol i drin osteoporosis tua 15 mlynedd yn ôl. Y nod oedd cryfhau esgyrn oedd yn gwaethygu drwy dargedu'r CaSR i ryddhau hormon anabolig. Er ei fod yn glinigol ddiogel a bod pobl yn gallu ei oddef yn dda, daeth i'r amlwg nad oedd yn gallu trin osteoporosis yn llwyddiannus.

Ond mae'r datblygiad diweddaraf hwn wedi rhoi cyfle unigryw i ymchwilwyr ailbennu diben y cyffuriau hyn. Gallai hefyd gyflymu'r amser mae'n ei gymryd i'w cymeradwyo i'w defnyddio gyda chleifion asthma. Ar ôl cael yr arian, nod y grŵp fydd treialu'r cyffuriau gyda phobl ymhen dwy flynedd.

"Os gallwn brofi bod cyffuriau calcilyteg yn ddiogel drwy eu rhoi yn ysgyfaint pobl yn uniongyrchol, mewn pum mlynedd hwyrach y byddwn mewn sefyllfa i drin cleifion a hyd yn oed atal asthma rhag digwydd yn y lle cyntaf," ychwanegodd yr Athro Riccardi.

Ariannwyd yr astudiaeth yn rhannol gan Asthma UK, Cronfa Bartneriaeth Caerdydd a dyfarniad 'Sparking Impact' Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnoleg a Biofeddygol (BBSRC).