Ewch i’r prif gynnwys

Stiwdio CAUKIN yn adeiladu i’r gymuned yn Fiji

12 Hydref 2017

PLAYSCAPE

Mae grŵp o raddedigion pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd yn cael eu canmol am feddylfryd byd-eang eu menter gymdeithasol, gan eu bod wedi adeiladu ysgol feithrin a neuadd gymuned newydd ar Ynys Vanua Levu, Fiji.

Trefniant cydweithredol o fyfyrwyr o Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yw Stiwdio CAUKIN, sy’n gweithio gydag elusennau, cyrff anllywodraethol ac ysgolion ar draws y byd.  Mae eu gwaith wedi cael cefnogaeth gan Caribou, enillydd Gwobr Gerddoriaeth Polaris, a Merge Records.

Mae CAUKIN yn codi arian, yn dylunio ac yn adeiladu prosiectau ar gyfer cymunedau sydd angen lleoedd newydd. Maent newydd gwblhau dau brosiect yn Fiji. Mae Ysgol Feithrin Naweni yn gwasanaethu nifer o bentrefi ac aneddiadau a fu gynt heb unrhyw le penodol i blant ddysgu.  Mae'r neuadd gymuned ar gyfer pobl pentref Vivili yn cymryd lle adeilad a ddinistriwyd yn sgîl seiclon Winston yn 2016.

Dywedodd Andrzej Bak, un o Gyfarwyddwyr CAUKIN: "Yn stiwdio CAUKIN rydym ni’n ysgogi ac yn ysbrydoli dylunio cymunedol ar draws y byd, gan ddarparu prosiectau adeiladu arloesol..."

"Rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda'r gymuned lle rydym ni’n adeiladu, gan ffynnu ar fewnbwn y bobl sydd o’n cwmpas, ac ar yr un pryd rydym ni’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a gweithwyr ifanc proffesiynol ddylunio, adeiladu a theithio."

Andrzej Bak CAUKIN

Mae eu prosiect cyntaf, PLAYSCAPE, yn lle chwarae a dysgu creadigol ar gyfer elusen ar Ynys Koh Rong, Cambodia. Fe'i hariannwyd drwy ymgyrch Kickstarter lwyddiannus a chafodd gefnogaeth gan y cerddor o Ganada, Dan Snaith, sy’n fwy adnabyddus wrth yr enw Caribou. Cyfrannodd Merge Records a Caribou y creadur hedegog lliwgar a welwyd yn y fideo cerddoriaeth ar gyfer ‘Can’t Do Without You’.

Dywedodd Caribou: "Wrth i’r seilwaith twristiaeth fynd â mwy a mwy o le ar yr ynys, does gan blant ysgol yr ynys unman i chwarae.  Mae’r lle chwarae, yn ymyl yr ysgol a sefydlwyd gan Ffrindiau Koh Rong, yn rhywle i’r plant chwarae’n ddiogel.  Mae’r creadur yn darparu canolbwynt ar gyfer y lle chwarae."

Gweld y fideo cerddoriaeth ar gyfer 'Can’t Do Without You'.

Fel rhan o’r ddau brosiect nesa, PLAYDIUM a PLAYVILION, bu tîm o fwy na 30 o wirfoddolwyr o Ysgol Bensaernïaeth Cymru ac Ysgol Bensaernïaeth Sheffield yn adeiladu dau le chwarae yn Indonesia.

Cychwynnwyd CAUKIN gan grŵp o ffrindiau oedd â diddordeb mewn gwaith dyngarol, pan benderfynon nhw eu bod am ddefnyddio’u sgiliau ymarferol ar gyfer prosiectau byd go iawn. Mae’r enw’n adlewyrchu’r cyfansoddiad rhyngwladol: Alden Ching (Canada), Andrzej Bak, Samantha Litherland, Harry Marshall, Josh Peasley a Harry Thorpe (y Deyrnas Unedig-UK) a Clarissa Budiono (Indonesia) yw aelodau ‘CAUKIN'.

Dywedodd Julia Roberts, Pensaer a Phartner yn y practis rhyngwladol enwog Hawkins\Brown: "Mae CAUKIN yn fenter wych.  Mae'n ysbrydoliaeth fawr gweld penseiri ifanc yn cofleidio'u cyfrifoldebau cymdeithasol."

Yn ddiweddar enillodd CAUKIN wobr Dewis y Bobl yng Ngwobrau Entrepreneuriaeth Santander 2017.  Yn eu cyflwyniad yn Llundain i Nathan Bostock, Prif Swyddog Gweithredol Santander UK, cafodd y grŵp gydnabyddiaeth am ddefnyddio dyluniadau difyr, creadigol ac arloesol ar gyfer cymunedau mewn angen.

Dyfarnwyd £2,000 i CAUKIN gan gystadleuaeth SPARK Menter Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn 2017. Cystadleuaeth Syniadau Flynyddol i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd yw SPARK, gyda chronfa gyffredinol gwerth mwy na £20,000 o gyllid a chefnogaeth i’w rhannu ar ffurf gwobrau.

Dywedodd Joshua Peasley: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill categori Menter Orau Spark, ac rydym ni’n methu aros i ddechrau gweithio gyda’r Tîm Menter a Dechrau Busnes i ddatblygu ein busnes ymhellach. Gan ein bod wedi dod o gefndir pensaernïaeth, a heb gael addysg busnes ffurfiol o gwbl, fe wnaeth cymryd rhan yn Spark ein gorfodi i ddatblygu ein syniadau o bersbectif busnes, ac rydym wedi dysgu cymaint drwy wneud hynny!"

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth eleni ar agor tan 5 Tachwedd 2017.

Gweld PLAYDIUM CAUKIN.

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau â thros 300 o sefydliadau a gallwn gynnig y cyfle i chi dreulio cyfnod ar leoliad yn Ewrop a ledled y byd.