Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr bwysig i arloeswr catalysis aur

5 Hydref 2017

Professor Graham Hutchings
Yr Athro Graham Hutchings

Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd a ddarganfu ddull mwy amgylcheddol gyfeillgar i gynhyrchu un o blastigau mwyaf cyffredin y byd, PVC, wedi'i anrhydeddu gyda gwobr glodfawr ENI.

Dyfarnwyd Gwobr Datrysiadau Amgylcheddol Uwch gan y cwmni Eidaleg ENI i'r Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, am ddatblygu deunydd ar wahân i fercwri, sy'n niweidiol ac yn wenwynig, i'w ddefnyddio yn y broses o gynhyrchu PVC.

Disgrifir gwobrau ENI fel 'Gwobr Nobel ymchwil ynni' a dyma un o'r prif wobrau i ymchwilwyr ym maes gwyddor ynni a'r amgylchedd gyda rhestr fawreddog o enillwyr, gan gynnwys tri enillydd Gwobr Nobel.

Bydd yr Athro Hutchings yn derbyn medal aur Bathdy Gwladwriaethol yr Eidal a €200,000.

Ymhlith ei lwyddiannau niferus, darganfyddiad mwyaf gwerthfawr yr Athro Hutchings yw bod gan y metel gwerthfawr aur allu rhyfeddol i gataleiddio adweithiau'n llawer mwy effeithlon nag eraill a ddefnyddir mewn diwydiant. Yn benodol, gellir defnyddio aur yn yr adwaith i gynhyrchu finyl clorid - y prif gynhwysyn yn un o'r plastigau mwyaf cyffredin yn y byd - PVC.

O ganlyniad i waith arloesol yr Athro Hutchings, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu mewn ffatri bwrpasol yn Tsieina gan y cwmni cemegau byd-eang Johnson Matthey er mwyn cataleiddio cynhyrchu finyl clorid - y tro cyntaf mewn dros 50 o flynyddoedd y cyflwynwyd newid llwyr mewn ffurfiant catalydd i gynhyrchu cemegyn nwyddau.

Yn fwy arwyddocaol, mae'r catalydd aur wedi cymryd lle catalydd mercwri hynod niweidiol a ddefnyddid yn flaenorol yn y broses gynhyrchu benodol hon. Mae mercwri, sy'n wenwynig dros ben, yn troi'n anweddol yn ystod y broses hon ac felly gall wneud ei ffordd i'r amgylchedd cyfagos. Mae'r WHO wedi datgan ei fod yn fygythiad sylweddol i iechyd dynol.

Mae Confensiwn Minamata ar Fercwri, sy'n gytundeb rhyngwladol rhwymol a lofnodwyd gan yn agos i 140 o wledydd yn 2013, yn cynnwys cymal arbennig ar finyl clorid, gan ddatgan ar ôl 2017, na chaiff ffatrïoedd newydd sy'n cynhyrchu finyl clorid ddefnyddio catalyddion mercwri. Ar ôl 2022, rhaid i bob ffatri sy'n cynhyrchu finyl clorid fod yn rhydd o fercwri.

Tsieina yw cynhyrchydd PVC mwya'r byd, gan ddefnyddio glo fel deunydd cychwynnol a chatalydd mercwri i gynhyrchu finyl clorid yn y pen draw.

Mae amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu y gellir gweithgynhyrchu dros 20 miliwn tunnell o finyl clorid bob blwyddyn drwy ddefnyddio'r catalydd aur.

"Mae'n anrhydedd arbennig i dderbyn y wobr a bod yng nghwmni rhestr barchus o enillwyr blaenorol. Sylfaen fy ngwaith yw ymroddiad a chanfod datrysiadau gwyddonol arloesol i broblemau'r byd real. Rwy'n gobeithio y bydd tynnu mercwri oddi wrth ei ddefnydd ehangaf a defnyddio aur yn ei le yn fuddiol iawn yn amgylcheddol i'n dyfodol."

Yr Athro Graham Hutchings Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute

"Rwyf i wrth fy modd fod yr Athro Hutchings wedi'i anrhydeddu gyda gwobr mor uchel ei bri. Ar ran y Brifysgol hoffwn ei longyfarch yn wresog ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o ansawdd rhagorol ac effaith sylweddol ei ymchwil ym maes catalysis."

Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Daw'r Athro Hutchings yn wreiddiol o Weymouth yn Dorset ac enillodd ei PhD mewn Cemeg Fiolegol o Goleg y Brifysgol Llundain, cyn dechrau ar yrfa mewn diwydiant gydag ICI. Aeth i'r byd academaidd ym Mhrifysgol Witwatersrand yn Ne Affrica cyn ymuno â Phrifysgol Lerpwl yn 1987.

Ymunodd yr Athro Hutchings â Phrifysgol Caerdydd yn 1997 fel Athro Cemeg Ffisegol a Phennaeth yr Ysgol Cemeg. Mae'r Athro Hutchings bellach yn Athro Regius Cemeg Ffisegol ac ef yw Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis byd-enwog Caerdydd.

Dewiswyd yr Athro Hutchings i dderbyn y wobr gan Bwyllgor Gwyddonol ENI, sydd o'r lefel uchaf ac sy'n cynnwys ymchwilwyr a gwyddonwyr o rai o athrofeydd ymchwil gorau'r byd.

Mae'r cynrychiolwyr nodedig sydd yn eistedd ar bwyllgor dethol y gwobrau ENI wedi cynnwys: Syr Harold W. Kroto,  Enillydd Gwobr Cemeg Nobel yn 1996; Alan Hegger, Enillydd Gwobr Cemeg Nobel yn 2000; a Theodor Wolfgang Haensch, Enillydd Gwobr Ffiseg Nobel yn 2005.

Rhannu’r stori hon

Our state-of-the-art catalysis facility supports world leading research in chemical sciences.