Ewch i’r prif gynnwys

A fydd Undeb ar ôl Brexit?

2 Hydref 2017

Brexit

Mae’r rhan fwyaf o’r rhai yn Lloegr a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon peryglu dyfodol y DU fel gwlad unedig cyn belled a bod Brexit yn mynd rhagddo, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin.

Roedd wyth deg dau y cant o’r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael o’r farn y byddai pleidlais o blaid annibyniaeth mewn ail refferendwm ar ddyfodol yr Alban yn bris gwerth ei dalu er mwyn “adennill rheolaeth”. Roedd cyfran yr un mor uchel, 81%, hefyd yn teimlo eu bod yn fodlon gweld y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei hansefydlogi os bydd hynny’n golygu bod y DU yn gallu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y canfyddiadau, a gymerwyd o arolwg diweddaraf Dyfodol Lloegr, eu cyflwyno mewn cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Geidwadol ym Manceinion.

Mae’r Ceidwadwyr sydd o blaid gadael hefyd yn fwy tebygol o fod yn fodlon gweld y DU yn chwalu, gyda 92% yn barod i dderbyn pleidlais o blaid annibyniaeth yn yr Alban (o gymharu â 78% o’r pleidleiswyr Llafur oedd o blaid gadael). Yn yr un modd, byddai 87% o'r Ceidwadwyr oedd o blaid gadael yn fodlon peryglu proses heddwch Gogledd Iwerddon (o gymharu â 67% o’r pleidleiswyr Llafur oedd o blaid gadael).

Cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Ailsa Henderson, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin: “Mae'r data yn dangos yn glir pris mor uchel y mae llawer o’r rhai sydd am adael yn fodlon ei dalu i wneud Brexit yn llwyddiant. Efallai mai’r peth mwyaf syfrdanol yw’r gyfran enfawr o Geidwadwyr sy'n fodlon peryglu dyfodol y DU fel un wlad i weld Brexit yn digwydd.”

"Ers ymhell dros ganrif, y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol sydd wedi bod y blaid y byddech yn ei chysylltu’n bennaf ag amddiffyn yr Undeb. Fodd bynnag, o weld cyfran mor uchel o gefnogwyr y blaid yn fodlon aberthu’r Undeb i ‘adennill rheolaeth’, efallai ei bod yn werth gofyn ai plaid yr undeb yw hi bellach."

Yr Athro Richard Wyn Jones Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.