Ewch i’r prif gynnwys

Trais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn gostwng 10% yn 2014

21 Ebrill 2015

Policemen

Trais yn erbyn plant a phobl ifanc 18% yn is

Cafodd 10% yn llai o bobl eu hanafu o ganlyniad i drais difrifol yn 2014 o gymharu â 2013, yn ôl astudiaeth* am Gymru a Lloegr gan Brifysgol Caerdydd.

Amcangyfrifir bod cyfanswm o 211,514 o bobl wedi mynd i Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw i Mewn yng Nghymru a Lloegr i gael triniaeth yn dilyn trais yn 2014 – 22,995 yn llai nag yn 2013.

Roedd llai o drais difrifol sy'n effeithio ar bobl o bob oed yn 2014 o gymharu â 2013. Yn fwyaf nodedig, roedd 18% yn llai o drais yn erbyn plant (0-10 oed) a phobl ifanc (11-17 oed).

Casglwyd y data o sampl gwyddonol oedd yn cynnwys 117 o Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw i Mewn yng Nghymru a Lloegr. Mae pob un yn aelodau ardystiedig o'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais (NVSN), sydd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol dros y 15 mlynedd diwethaf.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth a Chyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd: "Mae ein hastudiaeth yn dangos gostyngiad sylweddol mewn anafiadau'n ymwneud â thrais ymhlith dynion a menywod yn 2014 o gymharu â 2013. Ers 2010, rydym wedi gweld bod angen triniaeth ar dros 30% yn llai o bobl mewn Adrannau Achosion Brys ar ôl trais.

"Yr hyn sydd fwyaf calonogol yw'r ffaith bod bron 20% yn llai o ymosodiadau yn erbyn plant a phobl ifanc. Gall sawl ffactor fod yn gyfrifol am y duedd hon gan gynnwys polisïau gwell ar gyfer diogelu plant yn dilyn trychineb 'Babi P', a rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu am drais yn y gymuned rhwng y GIG, yr heddlu a llywodraeth leol.

"Mae'r gostyngiadau sylweddol yma bob blwyddyn yn newyddion da i ddinasyddion a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Ar ben hynny, mae'r gwasanaethau iechyd a'r system gyfiawnder droseddol wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn costau o ganlyniad i drais, ac mae llai o faich ar yr Adrannau Achosion Brys sydd o dan bwysau.

"Ac eto, nid yw pethau'n fêl i gyd; mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn parhau, a bod y niferoedd sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys ar eu huchaf ar benwythnosau. Wrth i'r economi wella yn dilyn y dirwasgiad, rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw alcohol yn mynd yn fwy fforddiadwy. Mae dros 200,000 o bobl ledled Cymru a Lloegr yn mynd i Adrannau Achosion Brys gydag anafiadau a achoswyd gan drais. Mae hyn yn parhau i fod yn llawer rhy uchel." Cadarnhaodd y canfyddiadau mai dynion 18-30 oed sy'n dal fwyaf mewn perygl o gael anaf sy'n gysylltiedig â thrais difrifol. Yn gyffredinol, ar wahân i gynnydd o 7% yn 2008, mae'r dull mesur hwn wedi dangos gostyngiad bob blwyddyn ers 2001.

* Mae'r dulliau a ddefnyddir i lunio'r adroddiad a'r canfyddiadau yn y gorffennol wedi'u hadolygu gan gymheiriaid a'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Journal of Public Health, ac yng nghyfnodolyn Injury.

Mae'r cynnwys yma ar gael yn Saesneg yn unig.

Rhannu’r stori hon