Ewch i’r prif gynnwys

Interniaeth yn Affrica ar gyfer myfyrwyr y Gyfraith

29 Medi 2017

Law and Global Justice students travel to Nairobi

Mae pedwar o fyfyrwyr y Brifysgol wedi ymgymryd ag interniaethau yn un o sefydliadau ymgyfreitha diddordeb cyhoeddus a diwygio cyhoeddus mwyaf blaenllaw Nairobi.

Gweithiodd Josie Hebestreit, Hannah Greep, Thomas Ikin, a Jack Pankhurst, pob un ohonynt yn fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn Sefydliad (Cyfansoddiad) Katiba, gan ymgymryd ag ymchwil i Gyfraith Tir Dwyrain Affrica a Chyfraith Gyfansoddiadol.

Paratôdd y myfyrwyr adroddiadau i helpu cyfreithwyr y Sefydliad gyda’u dadleuon cyfreithiol, gan hefyd fynychu llysoedd cyfraith Nairobi. Fe’u gwahoddwyd i Brifysgol Nairobi i roi sgwrs ynghylch y gwaith pro bono maent yn ei wneud yng Nghlinig y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang Caerdydd.

Fe wnaethant hefyd gwrdd ag unigolion yn y proffesiwn cyfreithiol a’r gymuned gyfreithiol academaidd ar draws Nairobi, gan fynychu gweithdy academaidd ar lafur gofal yn y Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica.

Trefnwyd yr interniaeth gan yr Athro Ambreena Manji a’r Athro John Harrington o’r Ysgol. Fe’i cyllidwyd gan Raglen Cyfleoedd Byd-eang y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Harrington: “Mae Josie, Tom, Hannah, a Jack wedi bod yn llysgenhadon gwych dros Gaerdydd ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Maent yn wir ddinasyddion y byd, wrth ddysgu gan gyfreithwyr a chyd-fyfyrwyr yn Kenya am gyfraith ar waith a hawliau dynol. Roeddem wrth ein boddau pan ysgrifennodd ein cydweithwyr yng Kenya atom er mwyn canmol rhaglen interniaeth y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang Prifysgol Caerdydd.

“Ar adeg pan fo cyfreithwyr Prydeinig yn edrych y tu hwnt i’r cyd-destun rhanbarthol er mwyn datblygu ac adnewyddu cysylltiadau mewn diplomyddiaeth, masnach, a chymorth ledled y byd, mae lleoliadau gwaith fel y rhain yn helpu ein myfyrwyr i ddatblygu fel cyfreithwyr byd-eang sy’n barod i ymarfer a gwasanaeth yn y DU a’r tu hwnt.”

Dywedodd Jack Pankhurst, un o’r myfyrwyr fu’n ymgymryd â’r interniaeth: “O’r holl gyfleoedd a gefais ym Mhrifysgol Caerdydd, y prosiect hwn oedd yr yn mwyaf ysbrydoledig a chyfoethog. Roedd fy interniaeth yn gyfle gwych i mi weithio ymysg y cyfreithwyr, barnwyr, ac ysgolheigion sy’n peri newid.”