Ewch i’r prif gynnwys

Rhedwyr yn paratoi ar gyfer ras eu bywydau

27 Medi 2017

Cardiff Half Marathon - Aerial View

Mae cannoedd o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn paratoi ar gyfer her eu bywydau pan fyddant yn rhedeg Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd ddydd Sul 1 Hydref.

Mae llawer yn rhedeg fel rhan o'n #TîmCaerdydd mwyaf erioed gan ymuno â'r nifer uchaf erioed o redwyr sef 25,000 yn hanner marathon ail fwyaf y DU.

Mae rhedwyr #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil y Brifysgol i ganser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl gyda 100% o'r cyllid yn mynd i'r achosion hyn.

#TeamCardiff 2018

Cânt eu hannog yn swnllyd gan 'sgwad calonogi' benodedig #TîmCaerdydd am y tro cyntaf, fydd gerllaw'r Ysgol Peirianneg.

Bydd llawer o staff a myfyrwyr eraill y Brifysgol yn gwirfoddoli mewn rolau pwysig i sicrhau bod y diwrnod yn mynd rhagddo'n llyfn.

Y Brifysgol yw noddwr teitl y digwyddiad ac mae wedi estyn ei chefnogaeth tan o leiaf 2020.

“Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr chwaraeon Cymru, ac mae'n ysgogiad mawr i annog pobl i fyw'n iachach.”

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Bydd y rheini sy'n cystadlu eleni'n derbyn medal yn dangos y Prif Adeilad i goffau ein cefnogaeth i'r digwyddiad.

Yn ogystal â'r brif ras ar ddydd Sul, cynhelir Gŵyl Redeg undydd i bob oed ddydd Sadwrn 30 Medi.

Mascots from the Cardiff Half mascot race

Bydd yr ŵyl yn cynnwys Ras Hwyl Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd am 12:15, ras masgot gyda chymeriad Dylan y Ddraig y Brifysgol am 13:05, a Ras Hwyl i’r Teulu Prifysgol Caerdydd am 13:45.

Dylai gwylwyr a rhedwyr edrych am babell Prifysgol Caerdydd ym mhentref y ras fydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar y ddau ddiwrnod.

Rhannu’r stori hon

Mae yna nifer o ffyrdd hwylus i godi arian i gefnogi gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd.