Llafur bellach yw’r blaid yr ymddiriedir ynddi fwyaf i sefyll i fyny dros Loegr

26 Medi 2017

Ballot box with rosettes

Llafur bellach yw’r blaid wleidyddol mae pleidleiswyr yn Lloegr yn ymddiried fwyaf ynddi i gynrychioli buddiannau Lloegr, yn ôl ymchwil newydd o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin.

Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn drawiadol wahanol i arolygon blaenorol sydd wedi awgrymu bod pleidleiswyr yn Lloegr yn dal yn anfodlon ynghylch ymateb Llafur i ‘Gwestiwn Lloegr’.

Cyflwynwyd y canfyddiadau, a gymerwyd o arolwg diweddaraf Future of England, mewn cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur yn Brighton.

Nododd bron traean o'r rhai yn yr arolwg (31%) mai’r Blaid Lafur oedd yn y sefyllfa orau i sefyll i fyny dros Loegr, o gymharu â 24% a ddewisodd y Ceidwadwyr a dim ond 9% a ddewisodd UKIP. Y Democratiaid Rhyddfrydol sgoriodd isaf o’r holl brif bleidiau gwleidyddol, gyda 4% yn unig.

Mae hwn yn newid sylweddol o'r canfyddiadau blaenorol yn 2016, lle gwelwyd UKIP fel y blaid yr ymddiriedid ynddi fwyaf i amddiffyn buddiannau Lloegr, a 2015, pan oedd y Ceidwadwyr gryn dipyn ar y blaen yn sgîl ymgyrch etholiad cyffredinol lle llwyddodd y blaid i ennyn ofn yn Lloegr mai’r SNP fyddai’n cynnal cydbwysedd grym mewn senedd grog.

Llais gwleidyddol Lloegr

Er gwaethaf cyflwyno ‘English Votes for English Laws’ (EVEL), polisi Ceidwadol a luniwyd i ddiogelu cyfreithiau penodol Seisnig rhag dylanwad allanol, mae canfyddiad ymhlith pleidleiswyr nad yw llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn ddigon ymroddedig i gyflwyno newid i Loegr.  Teimlai mwyafrif yr ymatebwyr (54%) na fu fawr ddim cynnydd, os o gwbl, yn y maes hwn, o gymharu â’r canfyddiadau ynghylch setliad datganoli gwell ar gyfer yr Alban. O ganlyniad, mae cyfran sylweddol o’r ymatebwyr am weld gweithredu pellach i wella llais  gwleidyddol Lloegr.

Cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Gwta ddwy flynedd yn ôl llwyddodd y Ceidwadwyr i ddefnyddio’r ofnau ynghylch clymblaid Llafur-SNP i’w cyflwyno’u hunain fel y blaid oedd yn y sefyllfa orau i amddiffyn buddiannau Lloegr.  Bellach mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod y rhod wedi troi, ac mai Llafur a welir fel y blaid fwyaf tebygol o roi llais gwleidyddol i Loegr...”

“Yr her i'r Blaid Lafur yw manteisio ar yr ymddiriedaeth hon a llunio ateb poblogaidd, cynaliadwy i’r gofynion hyn heb golli ei hapêl ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.”

Yr Athro Richard Wyn Jones, Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru

Ychwanegodd yr Athro Ailsa Henderson, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin: “Mae’n eglur nad yw pleidleiswyr yn Lloegr, er gwaethaf cyflwyno English Votes for English Laws, yn teimlo bod hynny wedi digwydd, gan fod llai nag un y cant o’r farn bod y Llywodraeth wedi gwneud llawer o gynnydd yng nghyswllt EVEL.  Mae hefyd yn eglur mai diffyg ymrwymiad gan y llywodraeth sy’n gyfrifol am hyn, ym marn y pleidleiswyr.  Gan mai hwn oedd prif gynnig y blaid lywodraethol ar gyfer ymdrin â llywodraethiant yn Lloegr, efallai nad yw'n syndod bod pleidleiswyr bellach yn credu mai plaid arall sydd yn y sefyllfa orau i sefyll i fyny dros Lloegr.”

Rhannu’r stori hon

Senedd

Canolfan Llywodraethiant Cymru

Yn yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.