Ewch i’r prif gynnwys

Cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd i MedaPhor

26 Medi 2017

MedaPhor's ScanTrainer

Mae MedaPhor, cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, wedi cytuno i brynu Intelligent Ultrasound.

Sefydlwyd MedaPhor yn 2004, ac mae'n ddarparwr efelychwyr hyfforddi uwchsain datblygedig i weithwyr meddygol proffesiynol. Mae Intelligent Ultrasound, sy'n gwmni deillio o Brifysgol Rhydychen, yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gwneud delweddu uwchsain yn adnodd diagnostig mwy effeithiol. Yn amodol ar gymeradwyaeth y rhanddeiliaid, bydd MedaPhor yn prynu'r cwmni dadansoddi delweddu am hyd at £3.6m.

Mae gosodiad cyfrannau hefyd wedi galluogi MedaPhor i godi £5.5m arall i ddatblygu cynhyrchion Intelligent Ultrasound ymhellach yn ogystal â'i gynhyrchion realiti estynedig, efelychydd ac adran hyfforddi ei hun. Yn ogystal bydd y cyllid newydd yn ariannu gofyniad cyfalaf gweithio Grŵp MedaPhor.

Dywedodd Stuart Gall, Prif Weithredwr MedaPhor: "Mae hwn yn gaffaeliad strategol fydd yn helaethu ein busnes efelychwyr hyfforddi uwchsain i'r farchnad meddalwedd uwchsain clinigol ehangach..."

"Bydd cyfuno meddalwedd dadansoddi delweddau dysgu dwys cyffrous Intelligent Ultrasound gyda'n rhwydweithiau rheoli, ymchwil a datblygu a gwerthiant presennol ni, yn cyflymu masnacheiddio cynhyrchion Intelligent Ultrasound sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'u tîm rhagorol i wireddu'r amcan hwn."

Stuart Gall Prif Weithredwr, MedaPhor

Mae'r cytundeb yn cyd-fynd â chyhoeddi bod MedaPhor wedi ennill contract efelychwyr systemau niferus yn Mohawk College yng Nghanada. Mae efelychwr ScanTrainer MedaPhor yn cynnig profiad hunan-ddysgu sganio uwchsain unigryw sy'n ail-greu dysgu un-wrth-un gan arbenigwr. Mae'n defnyddio sganiau go iawn gan gleifion, o fewn rhaglen hyfforddiant addysgol, i addysgu'r sgiliau sganio uwchsain craidd ac uwch, heb fod angen peiriant uwchsain na chlaf, gyda thipyn llai o oruchwylio arbenigol.

Dywedodd yr Athro Nazar Amso, sylfaenydd MedaPhor: "Rydym ni wrth ein bodd yn gweld MedaPhor yn mynd o nerth i nerth. Mohawk College sy'n rhedeg y rhaglen addysg sonograffeg fwyaf yng Nghanada; mae'n gyffrous meddwl am yr effaith y byddwn yn ei gael ar y genhedlaeth nesaf o glinigwyr."

Mae MedaPhor wedi'i restru ar farchnad AIM Cyfnewidfa Stoc Llundain, ac mae ei bencadlys yn Georgia, UDA a Chanolfan Iechyd Caerdydd. Mae Canolfan Iechyd Caerdydd yn brosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Medicentre, sydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cynnig gofod meithrin ar gyfer cwmnïau technoleg feddygol a biodechnegol blaenllaw. Ei ddiben yw cynorthwyo busnesau newydd ym maes gwyddorau bywyd ac mae wedi helpu cwmnïau fel MedaPhor i dyfu i fod yn fusnesau llwyddiannus sy’n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ar draws y byd.

Dywedodd Dr Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau yn Medicentre: "Mae MedaPhor yn enghraifft wych o’r hyn yr ydym yn credu ynddo yn Medicentre. Maent yn uchelgeisiol, ymagwedd ryngwladol ac yn sylfaen ar gyfer rhagoriaeth glinigol."

Rhannu’r stori hon

Cydweithiwch gyda ni drwy ein prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori, trosglwyddo technoleg a mwy