Ewch i’r prif gynnwys

Doctoriaid Yfory

26 Medi 2017

Vaughan Gething with UHB and CU delegation

Mae grŵp o fyfyrwyr meddygol yng Nghaerdydd am ddechrau ar flwyddyn o hyfforddiant dwys mewn meddyginiaeth argyfwng rheng flaen a chyn ysbyty i annog mwy o feddygon a hyfforddir yng Nghymru i ystyried gyrfa fel meddyg ADAB yng Nghymru.

Wedi’i chreu a’i chynnal gan Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, bydd y BSc Ategol Gofal Brys Cyn Ysbyty ac ar Unwaith, sy’n dechrau’r wythnos hon, yn cael myfyrwyr i dreulio’r flwyddyn academaidd mewn adrannau argyfwng brys yng Nghymru ynghyd â gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bob wythnos.

Y nod yw ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o ymarferwyr meddygol i ystyried arbenigo mewn meddygaeth frys. Rhagwelir y bydd hefyd yn cefnogi ymdrechion ledled Cymru i recriwtio a chadw meddygon brys yn GIG Cymru, a gwneud yn siŵr bod meddygon yn gallu darparu'r gofal gorau a mwyaf diogel posibl.

Vaughan Gething using ultrasound

Mae dyluniad y rhaglen yn defnyddio’r cryfderau ymchwil ac addysgu sydd ar gael mewn lleoliadau meddygol brys a chyn ysbyty yng Nghymru ac fe’i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yn dechrau â charfan o 10 myfyriwr mewn adrannau DAB yn ne-ddwyrain Cymru gan roi sylfaen cadarn mewn gofal acíwt i feddygon dan hyfforddiant, a phrofiad o feddygaeth frys yn gynt yn eu hyfforddiant. O fewn tair blynedd, bydd hyd at 15 myfyriwr y flwyddyn yn cael budd o’r cwrs ac yn cael eu rhoi mewn lleoliadau ar draws gorllewin a gogledd Cymru.

Dywedodd Dr Steve Riley, Deon Addysg Feddygol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae’n hanfodol ein bod yn cyfrannu at y materion recriwtio a chadw mewn meddygaeth frys drwy ei gwneud yn arbenigedd deniadol i feddygon dan hyfforddiant a meddygon newydd…”

“Ynghyd â sicrhau ein bod yn creu gweithwyr proffesiynol meddygol gwych rydym hefyd am greu cyfleoedd a phrifio myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd fel meddygaeth frys, lle mae prinder o feddygon arbenigol.”

Yr Athro Steve Riley Deon Addysg Feddygol

“Bydd y cwrs ategol newydd hwn, a fydd yn un Cymru gyfan ymhen dwy flynedd, yn cynnig hynny, a gobeithio y bydd hefyd yn annog myfyrwyr i ddewis Cymru’n gyntaf wrth hyfforddi, datblygu a dilyn gyrfa.”

Dywedodd Dr Huw Lloyd Williams, Arweinydd Llwybr y rhaglen BSc Gofal Brys, Cyn Ysbyty ac Ar Unwaith: “Bydd y rhaglen hon yn cael ein meddygon dan hyfforddiant israddedig C21 i weithio gyda’u cymheiriaid ôl-radd mewn adrannau brys ledled Cymru. Y nod yw bod yn brofiad dwys a seiliedig ar dystiolaeth, gan annog myfyrwyr i yrfa mewn arbenigedd meddygol acíwt a’u hysbrydoli i fod yn glinigwyr sy’n gweithio yn rheng flaen y GIG.”

MEDIC students in simulation suite

“Gydnabod pwysigrwydd gwerth meddygaeth”

Mae meddygaeth frys yn wasanaeth rheng flaen hanfodol y mae'n rhaid ei gyflawni'n ddiogel ac yn gywir ar gyfer pob claf, bob amser.  Dyma'r unig faes meddygol sy'n gweld cleifion ar unrhyw adeg, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, beth bynnag fo’r cyflwr o dan sylw.

Dywedodd Dr Clifford Mann,  Cyn-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys: “Dylid llongyfarch Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru am gydnabod pwysigrwydd gwerth meddygaeth frys yn gyffredinol a phwysigrwydd manwl gywirdeb a dilysrwydd academaidd yn benodol. Aiff y cwrs hwn gryn ffordd i sicrhau bod meddygaeth frys yn cael ei hystyried yn yrfa ddeniadol, hirdymor i feddygon newydd gymhwyso, a bod gan GIG Cymru’r gallu i gynnig gofal brys parod o safon uchel i’w holl gleifion.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething AC: “Mae’n bleser lansio’n swyddogol y rhaglen radd newydd hon, a fydd yn helpu myfyrwyr i ennill gwybodaeth ddwys ac ystod o sgiliau technegol sy’n berthnasol i feddygaeth frys. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen cadarn i Feddygon dan Hyfforddiant Blwyddyn 4 mewn gofal acíwt, gan eu paratoi at yrfa fel meddygon Meddygaeth Frys yn y dyfodol.

“Bydd hyfforddi ein meddygon dan hyfforddiant gorau i gyrraedd y safon uchaf o ran rhagoriaeth mewn meddygaeth frys yn allweddol wrth greu cohort o feddygon yn y dyfodol ac arweinwyr yn y maes...”

“Gobeithio y bydd y rhaglen radd ategol newydd sy’n cael ei lansio heddiw’n annog myfyrwyr i ddewis Cymru’n gyntaf i hyfforddi, datblygu a dilyn gyrfa, gan ddangos eto fod Cymru’n lle gwych i Hyfforddi, Gweithio a Byw ynddo.”

Vaughan Gething AC Ysgrifennydd Iechyd Cymru

“Mae lansiad heddiw’n benllanw gwaith sylweddol wrth lunio’r rhaglen newydd, ond yn ddechrau amser cyffrous iawn i’r ysgol feddygol yma ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Ychwanegu BSc ategol Gofal Brys Cyn Ysbyty ac Ar Unwaith yw’r datblygiad diweddaraf i gwricwlwm C21, sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael budd o radd feddygol o Brifysgol Caerdydd gyda chwricwlwm cyfoes gyda mwy o addysgu grwpiau bychain, dod i gysylltiad â chleifion yn gynt a chynyddu cyfrifoldeb dan oruchwyliaeth i greu meddygon gwell, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ac ysgol orau posibl.

Rhannu’r stori hon

Edrychwch beth sydd gan ein myfyrwyr meddygaeth i’w ddweud am astudio yma.