Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn ganolog i ddyluniad medal

22 Medi 2017

Half Marathon medal with Main Building

Bydd y medal a roddir i’r rhai sy’n gorffen Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd 2017 yn dathlu partneriaeth Prifysgol Caerdydd â’r digwyddiad torfol mwyaf yng Nghymru.

Bydd y Brifysgol yn parhau fel noddwr teitl tan o leiaf 2020 ar ôl ymrwymo i dair blynedd ychwanegol. Bydd cyfanswm o 25,000 o redwyr yn anelu at groesi’r llinell derfyn ar 1 Hydref, lle byddant yn derbyn medal goffaol newydd sbon sy’n anrhydeddu’r berthynas weithiol.

Mae’r Prif Adeilad, a godwyd bron i 100 mlynedd yn ôl, yng nghanol y ddinas, yn ganolog yn y dyluniad newydd. Dyfernir y fedal foglynnog i bawb sy’n gorffen wedi iddynt daclo cwrs cyflym, gwastad, eiconig Hanner Marathon Caerdydd sydd y mwyaf hyd yma.

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd wedi ffynnu ers Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF y llynedd a Hanner Marathon Caerdydd 2016. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hyd at 2020 o leiaf...”

“Sefydliad addysg mwyaf blaenllaw Cymru yw Prifysgol Caerdydd sydd yn adnabyddus ledled y byd am ei hymchwil arloesol a’r profiad mae’n ei gynnig i fyfyrwyr. Digwyddiad torfol mwyaf Cymru yw Hanner Marathon Caerdydd, a bydd ein partneriaeth â Phrifysgol fwyaf blaenllaw y wlad yn helpu i’r digwyddiad dyfu’n fwy byth.”

Matt Newman Prif Weithredwr Run 4 Wales

“Mae Run 4 Wales wedi ymrwymo i wella iechyd a lles y genedl yn ogystal ag ymgysylltu a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol. Prifysgol Caerdydd yw'r partner delfrydol i'n helpu ni i ddatblygu yn y meysydd yma.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud y mwyaf o’i pherthynas â’r hanner marathon ail fwyaf yn y DU er mwyn cefnogi ei hymchwil. Mae’n annog myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr i godi arian tuag at ymchwil iechyd allweddol.

#TîmCaerdydd

#TeamCardiff runners

Bydd pob ceiniog o'r arian y bydd rhedwyr #TîmCaerdydd y Brifysgol yn ei godi yn mynd tuag at ymchwil ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth, ac iechyd meddwl. Bydd dros 300 o leoedd rhedeg ar gael yn rhad ac am ddim i redwyr sy'n datgan eu bwriad i godi arian dros yr achos hwn.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Pleser o’r mwyaf yw parhau i fod yn rhan o’r digwyddiad poblogaidd iawn hwn sy’n chwarae rôl mor bwysig yn hybu ffordd iachus o fyw yn ein cymunedau...”

“Mae’r hyfforddiant a’r ymrwymiad sy’n ofynnol i sicrhau medal yn anferthol, felly rydym yn falch y bydd delwedd o’n Prif Adeilad ar y fedal y bydd y rhedwyr yn ei gwisgo er mwyn dathlu eu llwyddiant.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

“Mae’r Prif Adeilad yn ganolog i’r Brifysgol ac yn dirnod sy’n annwyl gan fyfyrwyr, staff a dinasyddion fel ei gilydd.”

Bydd y ras ddydd Sul 1 Hydref, ac mae pob tocyn wedi’i werthu. Am ragor o wybodaeth ynghylch cymryd rhan fel gwyliwr neu wirfoddolwr, ewch i www.cardiffhalfmarathon.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.