Ewch i’r prif gynnwys

Arwain y drafodaeth ryngwladol ynghylch ‘newyddion ffug’ yn yr oes ‘ôl-wirionedd’

22 Medi 2017

Professor Silvio Waisbord
Professor Silvio Waisbord opened this year's conference.

Cynhaliodd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (JOMEC) ei 6ed Cynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth yn Adeilad Syr Martin Prifysgol Caerdydd ddydd Iau a dydd Gwener, 14 a 15 Medi 2017.

JOMEC sy’n trefnu cynhadleddau Dyfodol Newyddiaduraeth ac fe’i noddir ar y cyd gan y cyhoeddwr academaidd Routledge, Taylor a Francis. Mae’n ddigwyddiad academaidd lle gall academyddion gyflwyno eu syniadau a’u hymchwil ddiweddaraf i gynulleidfa sy’n cynnwys ymarferwyr ac ysgolheigion newyddiadurol o bob cwr o’r byd.

Cymerodd dau gant o gynrychiolwyr o Asia, Affrica, Gogledd America, Ewrop ac Awstralia ran mewn pedair prif ddarlith a deugain o sesiynau thematig yn ystod y ddau ddiwrnod.

Agorwyd y gynhadledd gan yr Athro Stuart Allan, Pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.

Ar ôl y gynhadledd, dywedodd, "’Newyddiaduraeth mewn oes ôl-wirionedd’ oedd thema’r gynhadledd gan gydnabod ein bod yn defnyddio ymadroddion fel 'ôl-wirionedd’,'newyddion ffug’ a 'ffeithiau amgen' yn ddoeth gan fod arwyddocâd gwleidyddol iddynt. Rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn eu derbyn fel ymadroddion arferol neu gyffredin.

"Yn lle hynny, roeddem am eu trafod, eu herio a chwestiynu’r ffyrdd y maent yn ysgogi trafodaeth ehangach ynghylch dyfodol newyddiaduraeth. Ein nod yw helpu i osod agenda er mwyn ailedrych ar beth sy’n cael ei ystyried yn newyddiaduraeth a sut gallwn wella ei hansawdd a’i hygrededd yn y dyfodol."

Roedd pedwar siaradwr gwadd rhyngwladol nodedig yn y gynhadledd. Ar y diwrnod cyntaf, fe gyflwynodd yr Athro Silvio Waisbord o Brifysgol George Washington a Claire Wardle o First Draft y prif ddarlithoedd cyntaf, ac fe’u dilynwyd gan Guy Berger, Cyfarwyddwr Rhyddid Mynegiant a Datblygu’r Cyfryngau yn UNESCO. Yr Athro Linda Steiner o Brifysgol Maryland gyflwynodd prif ddarlith olaf y gynhadledd.

Bydd yr Ysgol yn mynd ati nawr i baratoi rhifynnau arbennig o gyfnodolion Journalism Studies, Journalism Practice a Digital Journalism. Bydd pob un yn cynnwys detholiad o’r papurau gorau a gyflwynwyd yn y gynhadledd.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.