Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymweld â’r Ysgol i lansio swyddfa iaith gydweithredol newydd

21 Medi 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn lansio swyddfa loeren Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen (SEEO) a’r Goethe Institut Llundain yn yr Ysgol Ieithoedd Modern

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, â’r Ysgol Ieithoedd Modern yr wythnos hon i ddysgu rhagor am ddwy bartneriaeth gydweithredol newydd sy'n anelu at gynyddu a hwyluso datblygiad proffesiynol athrawon iaith yng Nghymru.

Eleni, fe ddewisodd Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen (SEEO) a’r Goethe Institut, Llundain yr Ysgol Ieithoedd Modern fel lleoliad ar gyfer swyddfa loeren. Nod y Swyddfa yw helpu i gefnogi myfyrwyr sy'n dysgu ieithoedd, Sbaeneg ac Almaeneg yn benodol, a hefyd i gynyddu’r niferoedd sy’n mynd ati i hyfforddi fel athrawon a datblygu’n broffesiynol mewn colegau addysg bellach ac ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Y ddwy bartneriaeth hon yw’r cyntaf o'u bath rhwng y sefydliadau a darparwr Addysg Uwch yng Nghymru gan olygu bod y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Iau 21 Medi, yn gyfle i arddangos y cymorth cwricwlwm a’r deunyddiau a’r gweithgareddau rhyngweithiol a fydd ar gael i’r ddau sefydliad i athrawon sy'n gweithio yng Nghymru.

Mae presenoldeb dau sefydliad o'r fath yn yr ysgol yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, a amlinellodd ei strategaeth ‘Dyfodol Byd-eang’ pum mlynedd yn 2015 i helpu dysgwyr yng Nghymru i gyfathrebu’n effeithiol mewn ieithoedd eraill. Mae’r strategaeth ‘Dyfodol Byd-eang’ hefyd yn anelu at greu capasiti a chymorth ar gyfer datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg, a’u galluogi i addysgu ieithoedd tramor modern yn effeithiol o flwyddyn 5 ymlaen.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Rachael Langford: "Rydym ni wrth ein bodd i groesawu Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen (SEEO) a’r Goethe Institut, Llundain i’n Hysgol. Mae’n enghraifft o gydweithio na welwyd mo’i debyg o’r blaen sy’n mynd yn bell o ran dangos y mesurau yr ydym ni, a Llywodraeth Cymru, yn eu rhoi ar waith er mwyn cynllunio ar gyfer dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio â'r ddau sefydliad ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru; gan ddatblygu ein myfyrwyr ac athrawon iaith y wlad."

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Rwy'n falch iawn i ddathlu lansiad presenoldeb Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen a’r Goethe Institut ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym ni eisiau i fwy o'n disgyblion a’n dysgwyr gydnabod pwysigrwydd ieithoedd tramor modern a’r cyfleoedd bywyd a gyrfa sylweddol maent yn gallu eu cynnig. Ein nod yw ceisio gwella’r profiad o ddysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion, a’u gwneud yn bynciau y bydd mwy yn dewis eu hastudio fel TGAU, Safon Uwch ac yn y brifysgol.

Rydw i am i’n pobl ifanc ddod yn ddinasyddion byd-eang, sy’n gallu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliannau eu hunain, yn ogystal â rhai eraill.”

Rhannu’r stori hon