Ewch i’r prif gynnwys

A yw datganoli wedi gwneud gwahaniaeth?

18 Medi 2017

Senedd building

Yn ôl data newydd a gyhoeddwyd i nodi ugain mlynedd ers y refferendwm datganoli, mae cryn dipyn o bobl yng Nghymru o’r farn nad yw datganoli wedi effeithio rhyw lawer ar eu bywydau bob dydd.

Mae’r canfyddiadau a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ystyried agweddau’r cyhoedd tuag at ddatganoli ers 1997. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod o blaid datganoli, mae’n dangos nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl ei fod wedi cyflawni’r gwelliannau disgwyliedig mewn meysydd polisi pwysig.

Mae’r canfyddiadau’n tynnu ar ddata nas cyhoeddwyd o’r blaen o Astudiaeth Etholiad Cymru 2016 a’r Arolwg Baromedr Gwleidyddol Cymru diweddaraf.

Mae’r data’n dangos:

  • Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae agweddau tuag at ddatganoli wedi aros yn weddol sefydlog. Ers 2001, mae'n dangos bod o leiaf 65% o bobl wedi bod o blaid datganoli.
  • Mae mwyafrif o blaid lefel y pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru, neu o blaid cael rhagor o bwerau, yn enwedig ym maes plismona, sydd heb ei ddatganoli i Gymru hyd yma.
  • Pan ofynnwyd am sut mae datganoli wedi effeithio ar safonau byw, roedd bron dwy ran o dair (65%) yn teimlo na fu unrhyw wahaniaeth, ac roedd llai nag un o bob pump (19%) yn credu bod pethau wedi gwella.
  • Pan ofynnwyd am sut mae datganoli wedi effeithio ar addysg, roedd 60% o'r rhai a holwyd yn teimlo na fu unrhyw wahaniaeth yn y maes polisi hwn sydd wedi’i ddatganoli. Roedd mwy o bobl (22%) yn meddwl bod pethau wedi gwaethygu o’i gymharu â faint oedd yn credu bod datganoli wedi gwella safonau (18%).
  • Pan ofynnwyd am y gwasanaeth iechyd, er bod hanner (50%) yr ymatebwyr yn teimlo na fu unrhyw wahaniaeth amlwg, roedd bron i draean (32%) yn credu bod pethau wedi gwaethygu ers datganoli, a dim ond 18% oedd yn meddwl bod pethau wedi gwella.
  • Mae'r data yn dangos cysylltiad amlwg ac annisgwyl rhwng faint o ddatganoli y mae pobl eu heisiau a’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma yn eu barn nhw. Mae’r rhai sy'n gwrthwynebu datganoli yn llawer llai tebygol o gredu bod y Cynulliad yn gorff pwerus o’u cymharu â’r rhai sydd o blaid gweld Cymru’n cael mwy o annibyniaeth wleidyddol.
  • Er gwaethaf yr amheuon ynghylch effaith datganoli ar eu bywydau bob dydd, roedd gan yr ymatebwyr fwy o ffydd yng ngallu’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd i wneud rhagor i fynd i’r afael â phroblemau Cymru na’r gwleidyddion yn Llundain.

“Llywodraeth yn Llundain wedi perfformio’n wael”

Dyma farn yr Athro Roger Scully ynghylch y canfyddiadau newydd hyn: “Mae’r data diweddaraf yma yn cadarnhau’r darlun sydd wedi dod i’r amlwg mewn ymchwil flaenorol: mae pobl Cymru wedi derbyn datganoli ac am ei weld yn aros. Fodd bynnag, gallwn ddangos ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma er gwaethaf y ffaith nad yw pobl wedi cael eu plesio o gwbl gan y polisïau sydd wedi’u cyflwyno yn ystod 20 mlynedd o lywodraeth ddatganoledig. Wedi dweud hynny, mae pobl yn teimlo bod y llywodraeth yn Llundain wedi perfformio’n wael hefyd...”

“Yr hyn sy’n wahanol yw’r argraff bod problemau Cymru yn golygu rhywbeth i’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd a’u bod yn canolbwyntio arnynt - hyd yn oed os nad yw eu hymdrechion i ddatrys y problemau yma wedi gwneud llawer o argraff arnyn nhw.”

Fe gyflwynwyd y canfyddiadau gan yr Athro Roger Scully yn nigwyddiad “Ie oedd ateb Cymru”: 20 blynedd ers y refferendwm datganoli yng Nghymru, a oedd yn cael ei redeg gan y Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Arolwg ar y cyd yw Arolwg Baromedr Gwleidyddol Cymru a gynhelir gan Yougov ar ran ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynhaliwyd Astudiaeth Etholiad Cymru 2016 gan YouGov ac fe’i cefnogwyd gan yr ESRC.

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.