Ewch i’r prif gynnwys

Byddwch yn wirfoddolwr mewn digwyddiad athletau mawr a noddir gan y Brifysgol

13 Ebrill 2015

Runners holding sign saying 'The Extra Milers'

Mae rhaglen wirfoddoli newydd wedi cael ei lansio i ddod o hyd i helpwyr i gynorthwyo ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd pan gaiff ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2016.

Bydd angen hyd at 1,500 o wirfoddolwyr i gynorthwyo yn y digwyddiad byd-eang, a fydd yn dod â mwy na 200 o athletwyr gorau'r byd, o 60 o wledydd, i'r ddinas ar ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth 2016.

Bydd yr 'Extra-Milers', fel y'u gelwir, yn cael eu hannog i 'Make a DIFFerence' pan fydd amcangyfrif o 25,000 o redwyr a 100,000 o wylwyr yn dod i Gaerdydd ar gyfer yr hanner marathon a gaiff ei gynnal ochr yn ochr â'r prif ddigwyddiad.

Bydd y gweithgareddau'n cynnwys rhoi medalau a bagiau nwyddau, bod yn stiward ar gyfer y ras, gofalu am y gorsafoedd dŵr, a helpu i osod y mannau dechrau a gorffen.

Bydd y gwirfoddolwyr yn derbyn gwisg Caerdydd 2016 a ddarperir gan Adidas, ar ôl i'r cwmni dillad chwaraeon gadarnhau ei bartneriaeth â'r ras.

Ceir gwybodaeth am wirfoddoli ar www.cardiff2016.co.uk a gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn trafodaeth am y digwyddiad ar Twitter, gan ddefnyddio'r hashnod #extramilers.

Cafodd y Brifysgol ei henwi fel prif bartner y digwyddiad fis diwethaf.

Rhannu’r stori hon