Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Cynllun Entrepreneuriaid Preswyl newydd

8 Medi 2017

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi sefydlu cynllun Entrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl newydd er mwyn gwella ei allu i gefnogi meddwl entrepreneuraidd ac arloesol.

Dyma’r rôl gyntaf o’i math i gael ei chreu yn yr Ysgol, ac mae’n gyfle cyffrous i dri o unigolion gyda’r profiad entrepreneuraidd a masnachol priodol yn y sectorau masnachol a/neu mentrau cyhoeddus i fagu perthynas weithio agos a chilyddol fuddiol â’r Ysgol.

Bydd yr enwebeion llwyddiannus yn gweithio’n agos ag uwch reolwyr, staff, myfyrwyr, graddedigion, a phartneriaid yn y sectorau busnesau bychain a mentrau cymdeithasol er mwyn helpu i ddatblygu a gwthio yn ei flaen ysbryd a meddwl entrepreneuraidd yr Ysgol. Byddant hefyd yn cael y cyfle i roi cyngor ynghylch datblygu agweddau perthnasol ar genhadaeth gwerth cyhoeddus fentrus a blaengar yr Ysgol.

Ysgol Busnes Caerdydd yw un o’r ysgolion busnes a arweinir gan ymchwil mwyaf blaenllaw yn y DU. Fe’i cydnabyddir am gwmpas ac ansawdd ei addysgu a’i hymchwil. Hi hefyd yw’r ysgol fusnes gyntaf yn y byd i roi gwerth cyhoeddus wrth wraidd ei gweithrediadau.

Fel yr Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus, mae Caerdydd yn ymrwymedig i ddarparu gwelliant economaidd a chymdeithasol drwy ymchwil, addysgu, ac ymgysylltu amlddisgyblaethol. Mae hefyd yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu’r gymdeithas, megis arloesi, anghydraddoldeb, cynaliadwyedd, a mynediad at waith boddhaol.

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Dyma ddatblygiad newydd a chyffrous i’r Ysgol a chyfle gwych i entrepreneuriaid creadigol weithio gyda’n cymuned a’n partneriaid proffesiynol i wreiddio’n egwyddorion o entrepreneuriaeth a menter ymhellach.

“Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn helpu i hwyluso cyfnewid sgiliau a phrofiad menter ymarferol hanfodol, gan weithio gyda’n myfyrwyr a’n graddedigion uchelgeisiol a chreadigol i helpu i feithrin syniadau busnes newydd ac addawol. Byddant yn meddu ar safle o fri o fewn yr Ysgol ac yn elwa ar y cyfle i ymgysylltu â’n staff. Cânt hefyd fynediad at ein rhwydwaith allanol helaeth, y mae pob un ohonynt yn arloeswyr ac arweinwyr meddwl mewn ystod amrywiol o feysydd, gan gynnwys entrepreneuriaeth; arloesi; arweinyddiaeth busnes strategol; a metrau cymdeithasol.

"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu ein tri Entrepreneur Preswyl newydd yn fuan iawn.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.