Ewch i’r prif gynnwys

‘Oscars’ addysg uwch

7 Medi 2017

THE Awards 2017 Logo

Mae gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd y cyfle i ennill tair o wobrau mawreddog Times Higher Education.

Mae’r Athro Jon Anderson o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ar y rhestr fer yng Ngwobrau Times Higher Education (THE) 2017 yng nghategori Goruchwylydd Ymchwil Rhagorol y Flwyddyn. Mae Prosiect Treftadaeth CAER ar y rhestr fer yng nghategori Cyfraniad Rhagorol at y Gymuned Leol, ac mae Prosiect Phoenix hefyd ar y rhestr fer yng nghategori Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn.

Mae Gwobrau THE yn cael eu cydnabod yn gyffredinol fel ‘Oscars’ y sector addysg uwch.

Doniau, ymroddiad ac arloesedd

Bob blwyddyn, maent yn denu cannoedd o geisiadau gan brifysgolion y DU sy'n cydnabod doniau, ymroddiad ac arloesedd timau ac unigolion ar draws pob agwedd ar fywyd prifysgol.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Hoffwn longyfarch Yr Athro Anderson, pob aelod o'r tîm ym mhrosiect Treftadaeth CAER, yn ogystal â’r tîm sy'n rhan o Brosiect Phoenix ar gyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Times Higher Education Awards 2017.

“Mae Gwobrau THE yn nodwedd barhaol yng nghalendr addysg uwch erbyn hyn ac maent yn cael eu parchu’n gyffredinol am arddangos doniau, ymroddiad ac arloesedd timau ac unigolion ar draws prifysgolion y DU...”

“Pleser o’r mwyaf yw gweld y doniau sydd gennym ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu cydnabod. Ar ran pawb ym Mhrifysgol Caerdydd, dymunwn yn dda iddynt, a gobeithiwn y bydd hi’n noson lwyddiannus iawn.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
Jon Anderson

Mae’r Athro Anderson yn Ddarllenydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ac mae’n oruchwyliwr ymchwil brwdfrydig. Mae wedi goruchwylio myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys llawer o fyfyrwyr tramor.

Mae pynciau ymchwil ei fyfyrwyr yn amrywio’n fawr ac yn cynnwys llety teithwyr, polisi cyhoeddus LGBT yn y Cote D'Azur, amgylcheddaeth ymhlith myfyrwyr y DU sydd mewn addysg orfodol, arferion gofodol pobl ifanc, a rôl y flwyddyn i ffwrdd. O ganlyniad i’r rhain, mae’r Athro Anderson wedi esblygu ei sgiliau deallusol a chyd-ysgrifennu papurau gyda’i fyfyrwyr.

Mae’r Athro Anderson yn enwog hefyd am gynnig gofal bugeiliol rhagorol i’w fyfyrwyr. Cafodd ei ofal ei gydnabod pan enillodd wobr Goruchwylydd Doethurol Rhagorol yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywydau Myfyrwyr y Brifysgol. Cafodd ei enwebu gan un o'i fyfyrwyr a dalodd deyrnged arbennig iddo am ei gefnogaeth wedi iddi golli ei ffrind gorau.

Treftadaeth CAER

Mae Treftadaeth CAER yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, elusen datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion, a sefydliadau treftadaeth blaenllaw yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar un o'r safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol yng Nghymru, Bryngaer Caerau, ond ychydig iawn y mae pobl yn ei wybod am y safle.

Amgylchynir y safle gan ddwy ward sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru o safbwynt cymdeithasol ac yn economaidd. Nod y prosiect yw defnyddio'r ymchwil i greu cyfleoedd addysgol, cael gwared ar y meini tramgwydd sy’n rhwystro cynnydd addysgol, hyrwyddo gweithgareddau datblygu sgiliau, a herio canfyddiadau negyddol o’r cymunedau hyn.

Prosiect Phoenix

Cafodd Prosiect Phoenix ei lansio yn 2014 i weithio gyda Phrifysgol Namibia (UNAM) er mwyn ceisio gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia.

Ers lansio’r prosiect, mae staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac UNAM wedi creu dros 30 o becynnau gwaith o bwys a chael gafael ar tua £650,000 o arian allanol.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Hyfforddiant am anesthesia dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr meddygol UNAM a swyddogion meddygol Namibia. Cyn creu Prosiect Phoenix, dim ond dau anaesthetydd gwladol rhan-amser oedd yn gweithio yn Namibia. Erbyn hyn, mae dros 100 o bobl wedi cael hyfforddiant am anesthesia; ysgol haf bythefnos o hyd yn addysgu mathemateg i 70 o fyfyrwyr yn UNAM; a chynhadledd flynyddol meddalwedd ffynhonnell agored Python sy’n annog cenhedlaeth newydd o raglennwyr meddalwedd yn Affrica.

Dywedodd Golygydd THE, John Gill: "Unwaith eto, mae'r gwobrau hyn wedi denu cannoedd o geisiadau o bob cwr o’r wlad, ac o bob math o sefydliadau.

“Gall pawb sydd ar restr fer deimlo’n eithriadol o falch o fod wedi cyrraedd y cam hwn. Rydym ni yn Times Higher Education yn edrych ymlaen at anrhydeddu’r enillwyr am eu doniau, eu creadigrwydd a’u hymrwymiad ar adeg pan mae’r rhinweddau hyn yn dod yn fwyfwy hanfodol.”

Isambard

Man inspecting of supercomputers

GW4 yn lansio uwchgyfrifiadur cyntaf o'i fath yn y byd mewn arddangosfa genedlaethol

Mae'r uwchgyfrifiadur, a elwir Isambard, yn cael ei ddatblygu gan ymchwilwyr GW4 ar y cyd â'r Swyddfa Dywydd a Cray Inc

Mae GW4 (cynghrair ymchwil ac arloesedd sy'n cynnwys prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg) ar restr fer yng nghategori Arloesi Technolegol am ei huwchgyfrifiadur Isambard – y cyntaf o'i fath yn y byd.

Cafodd Cynghrair GW4, ynghyd â Cray Inc. a'r Swyddfa Dywydd, £3m gan EPSRC i gyflenwi gwasanaeth cyfrifiadura perfformiad uchel Haen 2 newydd a fydd o fudd i wyddonwyr ledled y DU.

Mae'r fenter gydweithredol hon wedi cynhyrchu'r uwchgyfrifiadur cynhyrchu ARM cyntaf yn y byd, o'r enw 'Isambard' ar ôl y peiriannydd Fictoraidd Isambard Kingdom Brunel. Bydd Isambard yn galluogi ymchwilwyr i ddewis y system caledwedd orau ar gyfer eu problem wyddonol benodol, a fydd yn gwneud y broses yn symlach ac yn fwy cost-effeithiol. Mae'r uwchgyfrifiadur yn gallu gwneud cymhariaeth systemau ar gyflymder uchel am ei fod yn cynnwys mwy na 10,000 o unedau prosesu 64-did ARM – un o'r peiriannau mwyaf o'i fath unrhywle yn y byd.

The Times Higher Education Awards 2017 gala ceremony takes place at the Grosvenor House Hotel on Park Lane in London on Thursday 30 November 2017.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.