Ewch i’r prif gynnwys

Rhestr THE o Brifysgolion Gorau'r Byd

5 Medi 2017

THE World University Rankings logo

Mae Prifysgol Caerdydd wedi codi 20 safle ar restr ryngwladol nodedig o brifysgolion ymchwil-ddwys gorau'r byd.

Ar Restr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018, a gyhoeddir heddiw, mae Prifysgol Caerdydd wedi codi i fod yn gydradd 162ain o blith 1,102 o brifysgolion ledled y byd – cynnydd o 20 safle o gymharu â llynedd (182ain) a 46 o leoedd ers 2016 (208fed).

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn safle 25 ymhlith y 93 o brifysgolion y DU ar y rhestr.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Yr hyn sy'n ein hysbrydoli o hyd fel prifysgol yw ennill ein plwyf ymhlith y 100 o brifysgolion gorau'r byd...”

“Er bod gennym ddigon o le i wella ar y rhestr hon, mae codi 20 safle ers y llynedd a 46 o leoedd dros y tair blynedd ddiwethaf yn dangos yn glir ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

“Daw'r canlyniad yn sgîl cyhoeddi tabl cynghrair Rhestr Academaidd Shanghai o Brifysgolion y Byd 2017, a roddodd y Brifysgol yn safle 99 – ein safle uchaf ers i'r tabl ddechrau yn 2003.

“Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod wedi cynyddu ein sgôr yn yr holl fesurau sy'n sail i'r rhestr, ond rwy'n arbennig o falch i weld bod ein bydolwg rhyngwladol yn dal i fod yn faes hynod gryf i ni.

“Er gwaethaf yr holl ansicrwydd ynghylch prifysgolion y DU yn y cyfnod ar ôl Brexit, bydd hyn yn helpu i gefnogi ein henw da byd-eang fel prifysgol ymchwil-ddwys sy'n perfformio'n dda.”

Mae Rhestr THE o Brifysgolion Gorau'r Byd, a archwilir gan PwC, yn ei 13eg blwyddyn erbyn hyn, ac mae'n gosod 1,102 o sefydliadau ledled y byd ar ei rhestr, gan ddefnyddio 195 o wahanol bwyntiau data ar gyfer pob un o'r 1,500 o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw y byd, ynghyd â 250,000 eitem o ddata ynglŷn ag enw da a data llyfryddol gan Elsevier, yn seiliedig ar bron i 62m o ddyfyniadau i 12.4 o gyhoeddiadau ymchwil dros bum mlynedd.

Rhannu’r stori hon

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.