Ewch i’r prif gynnwys

Dysgwyr ifanc yn lansio ymgyrch iechyd

30 Awst 2017

UniCamp

Mae grŵp o ddysgwyr ysgol uwchradd yn Namibia yn lansio ymgyrch iechyd y galon genedlaethol ar ôl treulio pythefnos mewn gwersyll arbennig a ddyluniwyd i godi eu dyheadau.

Mae'r 37 o ddysgwyr o Ysgol Uwchradd JA Nel yn Keetmanshoop wedi llunio ymgyrch – Iechyd y Galon Namibia – i hyrwyddo byw'n iach, gyda chefnogaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia (UNAM).

Bydd y dysgwyr eu hunain yn lansio'r ymgyrch mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghampws y De UNAM yn Keetmanshoop am 11:00 ddydd Iau, 31 Awst.

Mae Iechyd y Galon Namibia yn cynnwys tudalennau gwe, cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, taflenni, brandio, ffilmiau byr, ac ymgysylltu cymunedol.

Mae'r cynllun yn rhan o Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, partneriaeth ag UNAM sy’n ceisio gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia.

Gan ganolbwyntio ar fusnes a marchnata, newyddiaduraeth a'r cyfryngau, gofal iechyd a chyfrifiadureg, mae'r ymgyrch yn ffrwyth llafur pythefnos o waith caled gan y dysgwyr a'r myfyrwyr.

Maent wedi cymryd rhan mewn 'UniCamp' heriol sy'n cynnwys gwaith academaidd, gweithdai, gweithgareddau, gemau a chwaraeon i wella eu gwybodaeth, hunan-fri, gwaith tîm, sgiliau cyfathrebu a llythrennedd.

Dywedodd Chantel Kaffer, 18, o Ysgol Uwchradd JA Nel: "Braint yw bod yn rhan o UniCamp.

"Roedd llawer ohonon ni ddim yn gwybod y ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chalon afiach, ond nawr rydyn ni'n gwybod mai deiet, ysmygu, alcohol a diffyg ymarfer corff yw'r ffactorau.

"Rydym am i bobl glywed am ein hymgyrch Iechyd y Galon er mwyn iddynt allu byw'n hirach a chael bywyd mwy iach."

Dywedodd Revonia Lambert, 18, o Ysgol Uwchradd JA Nel: "Drwy gymryd rhan yn UniCamp rydw i wedi ennill sgiliau, gwella fy iaith a gwybodaeth, a chael dysgu moesau bwrdd, gemau newydd, caneuon a sut i weithio mewn grŵp.

"Bydd ein hymgyrch Iechyd y Galon yn addysgu pobl am beryglon clefyd y galon, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn cael eu dysgu'n ifanc er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth i'r genhedlaeth nesaf."

Y gobaith yw bod UniCamp, dan arweiniad Scott McKenzie, Arweinydd Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, wedi codi dyheadau dysgwyr, ac y bydd rhai ohonynt yn mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael ar wefan a grëwyd gan y dysgwyr: hearthealthnamibia.com

Rhannu’r stori hon