Ewch i’r prif gynnwys

Gwisgo lles am eich braich - a all technoleg ein gwneud ni'n fwy iach?

29 Awst 2017

Wearable tech
Credit: Crew.

A all technoleg y gallwn ei gwisgo ein gwneud ni'n iach?

Ydy'r weithred syml o strapio monitor ar ein braich yn addasu ein hymddygiad? A allai cleifion gael budd tymor hir o wisgo dyfeisiau? A allai'r dyfeisiau bach hyn ddarparu gwybodaeth hanfodol i feddygon a fyddai’n lleihau ein risg o fod yn sâl?

Mae ‘Meddyg ar Eich Arddwrn’ yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr dyfeisiau y gellir eu gwisgo o gwmnïau gan gynnwys Garmin a Fitbit at ei gilydd i drafod manteision ac anfanteision defnyddio dyfeisiau sydd â'r pŵer i newid bywydau.

Trefnir y digwyddiad hanner diwrnod gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd, gyda siaradwyr gwadd yn dod ynghyd i ystyried ffyrdd i wella gofal cleifion.

Dywedodd Dr Matt Morgan, Pennaeth Ymchwil a Datblygu'r Ysgol: "Rydym ni ar hyn o bryd yn rhedeg prosiect gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i edrych ar dechnoleg y gellir ei gwisgo ac ystyried y ffyrdd mae'n effeithio ar ymddygiad defnyddwyr.

"Ein prif nod yw ymchwilio a yw data a gesglir gan dracwyr gweithgaredd defnyddwyr yn cyd-fynd â Phrofion Ymarfer Cardiopwlmonari, sy'n dechneg ddrud a maith ond trylwyr a ddefnyddir i asesu cleifion cyn llawdriniaeth fawr. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn profi DNA ar gyfer yr hyn a elwir yn 'enynnau ffitrwydd' a gweld sut mae'r rhain yn cyd-fynd â chanlyniadau iechyd a llawfeddygol."

"Os gall defnydd o dracwyr gweithgaredd at ddibenion o'r fath roi arwyddion cywir o ffitrwydd claf ar gyfer llawdriniaeth gallai hyn gynyddu'n fawr y nifer o gleifion sy'n gallu cael eu hasesu a lleihau straen ar wasanaethau'r GIG."

Dr Matthew Morgan Clinical Lecturer

Dywedodd Dr Nathan Ridell, meddyg sylfaen sydd â diddordeb mewn arloesi o ran iechyd: "Mae byd technoleg y gellir ei gwisgo yn ehangu’n gyflym ac mae yma botensial amlwg i wella gofal cleifion drwy ddarparu gwybodaeth fyw am ddim i feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Fodd bynnag dyw gwasanaethau gofal iechyd ddim eto'n manteisio'n llawn ar ei darpariaeth a'i defnydd."

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu ein bod yn ei chael yn anodd adrodd am ein lefelau gweithgaredd ein hunain yn gywir. Ond gwelwyd bod y weithred syml o ddefnyddio dyfeisiau tracio wedi gwella ymwybyddiaeth cleifion o'u ffitrwydd eu hunain."

Ymhlith y siaradwyr fydd Dr Dan Reardon, sydd wedi graddio o Ysgol Meddygaeth Caerdydd a Phrif Weithredwr y cwmni iechyd byd-eang Fitness Genes. Mae'r cwmni'n dadansoddi DNA cleient a data am ei ffordd o fyw i lunio cynllun ymarfer corff a dietegol wedi'i deilwra i'w helpu i fod yn fwy ffit.

Dywedodd Dr Reardon, sy'n gweithio yng Nghalifornia: "Y cwestiwn mawr i ymarferwyr gofal iechyd yn fyd-eang yw: a all technoleg y gellir ei gwisgo newid ymddygiad tymor hir, ysgogi cleifion, a'n helpu ni i gyd i fyw bywydau mwy iach? Ac os felly, sut gall ymarferwyr gofal iechyd sefydlu fframweithiau a rhwydweithiau sy'n cefnogi defnydd o'r dyfeisiau wrth reoli lles cleifion unigol."

Mae'r digwyddiad hanner diwrnod am ddim (gan gynnwys cinio) yn agored i ymarferwyr gofal iechyd, arbenigwyr dyfeisiau y gellir eu gwisgo ac academyddion. Caiff ei gynnal rhwng 10:00 a 15:00 ar 20 Medi. Am ragor o wybodaeth ac archebu lle, ewch i dudalen y digwyddiad.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.