Ewch i’r prif gynnwys

Twitter yn helpu i ragfynegi senedd grog

27 Mawrth 2015

tab on computer showing Twitter URL

Mae ymchwilwyr o Gaerdydd a Manceinion wedi defnyddio Twitter i ragfynegi canlyniad yr etholiad.

Mae grŵp o ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd a Manceinion wedi defnyddio Twitter i ragfynegi senedd grog ar 7 Mai.

Mae Burnap, Sloan, a Williams o Gaerdydd, ynghyd â Gibson a Southern o Brifysgol Manceinion, yn un o ddeuddeg grŵp o academyddion blaenllaw sy'n arddangos eu canfyddiadau heddiw yng nghynhadledd bwysig LES (gweler y tabl isod).

Y grŵp Caerdydd / Manceinion yw'r unig un sydd wedi defnyddio Twitter i ragfynegi canlyniad yr etholiad. Mae pob un o'r 12 grŵp yn cytuno na fydd unrhyw blaid unigol yn ennill y 326 sedd sy'n ofynnol ar gyfer mwyafrif cyffredinol.

Mae tîm Caerdydd / Manceinion yn rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn ennill 286 o bleidleisiau, Llafur 306, y Democratiaid Rhyddfrydol 21 ac UKIP 5; bydd yr SNP yn cael 9, Plaid Cymru 3, a'r Blaid Werdd yn cael 1.

Dywedodd Dr Pete Burnap, sy'n arwain platfform arsylwi'r we COSMOS ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Dyma un o'r mentrau cyntaf gan gymuned academaidd wleidyddol y DU i ddefnyddio Twitter i ragfynegi canlyniad Etholiad.

"Mae rhagfynegiadau wedi cael eu cyhoeddi, ac iddynt lefelau cywirdeb amrywiol, mewn mannau eraill yn y byd, ond maent wedi cael eu beirniadu rhywfaint oherwydd materion methodolegol.

"Ar hyn o bryd, rydym yn llunio rhagolygon amrediad pell, a byddwn yn astudio a yw cywirdeb yn gwella/lleihau yn y cyfnod cyn yr etholiad ac ar ôl i'r canlyniad ddod i'r amlwg."

 

Ceid

Llaf

Dem Rhydd    

UKIP

SNP

PC

Gwyrdd 

Arall 

Stegmaier a Williams 

233

312

28

 

55

  

4

Prosser

241

276

48

    

67

Ford, Jennings, Pickup and Wlezien (Arsyllfa Pleidleisio) 

265

285

24

3

49

  

6

Clarke, Stewart and Whiteley

271

281

36

    

44

Rallings, Thrasher and Borisyuk

275

281

20

2

   

54

Hanretty, Lauderdale and Vivyan (electionforecast.co.uk)

284

279

26

1

38

2

1

1

Burnap, Gibson, Sloan, Southern and Williams

286

306

21

5

9

3

1

1

Lewis-Beck, Nadeau and Belanger

286

274

10

    

62

Rhannu’r stori hon