Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn defnyddio pŵer cerddoriaeth i hybu therapi bôn-gelloedd

25 Mawrth 2015

3 violins being played in an orchestra

Mae gwyddonwyr prifysgol yn defnyddio pŵer cerddoriaeth i wella sut mae therapïau bôn-gelloedd yn cael eu datblygu.

Mae potensial ymchwil bôn-gelloedd i drin cyflyrau, sy'n amrywio o ganser i ddiabetes, yn destun diddordeb cynyddol i wyddonwyr.

Fodd bynnag, mae trosi'r ymchwil hon o theori i rywbeth sy'n ddefnyddiol yn glinigol yn llawn anawsterau sy'n gwreiddio o ddyblygu arbrofion a sicrwydd ansawdd celloedd.

Mae dulliau presennol ar gyfer cynhyrchu bôn-gelloedd yn parhau'n dasg anodd, sy'n gofyn am ymchwilwyr a set sgiliau arbenigol iawn.

Er mwyn gwneud proses ymchwil bôn-gelloedd yn fwy hygyrch i'r gymuned ymchwil, mae gwyddonwyr o Gaerdydd wedi datblygu meddalwedd newydd sy'n trawsffurfio data i sain, gan ddefnyddio algorithmau sydd angen yr ymyrraeth ddynol leiaf - proses o'r enw seinegiddio.

Mae'r dull wedi cael ei ddylunio i gynhyrchu sgorau cerddorol yn seiliedig ar arbrofion mewn labordai. Trwy gyfuno gwyddor fiolegol ag offer meddalwedd ac algorithmau, gellir dehongli arbrofion nawr heb ddefnyddio geiriau.

Canlyniad y darganfyddiad hwn yw gall gwyddonwyr sy'n gweithio gyda bôn-gelloedd ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau nawr gael gwybodaeth trwy gyfrwng cerddorol sy'n ddealladwy i bawb, datrys problemau gyda dyluniad arbrawf, a gallu cyflawni nodau ymchwil yn haws.   

Dywedodd yr arbrofolwr, yr Athro Rachel Errington, Caerdydd: "Rydym ni wedi gwneud camau mawr ymlaen mewn cyfnod mor fyr, i ddatblygu dull clyweledol newydd sy'n newid  patrwm ar gyfer cyfleu astudiaethau bôn-gelloedd ac astudiaethau'n seiliedig ar gelloedd."

Mewn cyngerdd cyhoeddus a gynhaliwyd yn Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol yn Cathays, perfformiodd 'Cerddorfa Bôn-gelloedd' sgorau cerddorol a ysbrydolwyd gan ddehongliadau o weithdrefnau gwyddonol. Arddangosodd y perfformiad beth mae'r prosiect ymchwil wedi'i gyflawni ers dechrau pedwar mis yn ôl.

Mae tîm y gerddorfa yn cynnwys ymchwilwyr amlddisgyblaeth a cherddorion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ariennir yr ymchwil gan Crwsibl Cymru.

Rhannu’r stori hon