Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd i gynnal perfformiadau cyntaf y byd dau ddarn o waith Debussy

23 Mawrth 2015

Student orchestra

Bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn cynnal perfformiadau cyntaf y byd dau ddarn o waith Debussy yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd y mis hwn. Mae'r cyngerdd yn rhan o ŵyl ryngwladol gofiadwy Cerddorfa'r Ffilharmonia o gerddoriaeth Ffrengig, sef City of Light Paris 1900-1950.

Gadawyd y ddau ddarn o waith - Prélude à 'L'histoire de Tristan a No-Ja-Li ou Le Palais du Silence  - heb eu gorffen pan fu'r cyfansoddwr,  Claude Debussy, farw ym 1918. Ers hynny, cawsant eu  cwblhau a'u sgorio gan Robert Orledge, sy'n arbenigwr blaenllaw ar gerddoriaeth Ffrengig – a chânt eu perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf ar 27 Mawrth 2015.

Bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd, o dan yr arweinydd Mark Eager, yn cynnal perfformiad cyntaf y byd, ynghyd â'r perfformiad cyntaf yn y DU o waith gan gyfansoddwr o Ffrancwr yr 20fed ganrif , Andre Jolivet.

Dywedodd Dr Caroline Rae, sy'n Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Gerddoriaeth ac yn Ymgynghorydd  Cyfres yng ngŵyl Cerddorfa Ffilharmonia City of Light : "Mae bale anghofiedig Debussy No-ja-li ou le Palais de Silence a'r Prélude Tristan miniatur yn waith bendigedig sy'n taflu goleuni pwysig ar weithgarwch y cyfansoddwr. Mae gwaith cwblhau rhagorol Robert Orledge wedi dod â nhw yn fyw. Mae'n gamp aruthrol bod y perfformiadau cyntaf yn y byd hyn yn digwydd yng Nghaerdydd.  Bydd y cyngerdd arbennig hwn yn cofnodi enw Prifysgol Caerdydd ym mlwyddnodau hanes cerddoriaeth.

"Caiff y darganfyddiadau newydd cyffrous hyn eu cyfosod gyda pherfformiad cyntaf y DU o gylch caneuon hudol Jolivet, Poèmes intimes gyda'r unawdwr bariton Jeremy Huw Williams, yn ogystal â gwaith poblogaidd iawn gan Debussy a Ravel.

"Mae'r cyngerdd hwn yn ffordd ragorol i ni arddangos talentau ein myfyrwyr cerdd, yn ogystal â rhoi cyfle i'n myfyrwyr berfformio perfformiadau cyntaf pwysig y byd."

Mae rhagor o wybodaeth am y cyngerdd ar gael gan wefan Cyfres Cyngherddau'r Ysgol Gerddoriaeth. Mae tocynnau'n costio £10 ac maent ar gael o Neuadd Dewi Sant. Mae gostyngiadau ar gael hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am ŵyl City of Light: Paris 1900-1950  Cerddorfa'r Ffilharmonia, ewch i  philharmonia.co.uk/paris.