Ewch i’r prif gynnwys

Awdur a enwebwyd ar gyfer gwobr Costa yn dychwelyd i ddathlu ailwampio’r llyfrgell

23 Mawrth 2015

AHSS Library after refurbishment

Bydd myfyriwr graddedig mewn ysgrifennu creadigol, a gyrhaeddodd restr fer gwobr lenyddol enwog, yn dychwelyd i'r Brifysgol i ailymweld â'r llyfrgell a helpodd hi i feithrin ei sgiliau.

Bydd Joanne Meek yn dod yn ôl i'r Brifysgol, ynghyd â dros 30 o gynfyfyrwyr a gwesteion eraill, i ddathlu ailddatblygiad Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol.

Cyrhaeddodd restr fer gwobr stori fer Costa 2014, gyda Jellyfish, hanes menyw sy'n dychwelyd gyda'i phlant i lân môr, a oedd yn arfer bod yn gartref iddi.

Treuliodd Joanne, a raddiodd o'r Brifysgol yn 2014 gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol, yn dilyn gradd BA ag anrhydedd mewn Saesneg Iaith a Chyfathrebu yn 2009, oriau maith yn y llyfrgell ar Colum Road, yn astudio awduron, yn cynnal ymchwil ac yn addasu rhyddiaith.

Writer Joanne Meek

"I ddechrau, wrth astudio ar gyfer fy ngradd israddedig fel mam sengl, dyma oedd fy unig ffordd o gael mynediad at y rhyngrwyd, ac roedd yn rhywle lle gallwn i gael llonydd i astudio mewn tawelwch," meddai.

"Yn ddiweddarach, yn ystod fy ngradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, dechreuais sylweddoli y gallai'r llyfrgell fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil, nid yn unig yn fy maes i, ond ar gyfer ysgrifennu ffuglen hefyd."

Dywedodd Joanne fod ei gradd MA wedi rhoi'r hyder iddi roi cynnig ar gystadleuaeth Costa.

"Fe wnaeth astudio yng Nghaerdydd ganiatáu i mi ailddiffinio fy hun a fy mywyd. Cyrhaeddais fel myfyriwr aeddfed, yn newydd i'r ddinas, yn ansicr iawn ohonof i fy hun a'm galluoedd," meddai.

"Rwyf bob amser wedi bod yn falch o fod yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd. Trwy fod yn rhan o'r Brifysgol, rhoddodd yr hyder a'r cymhelliant i mi barhau i ymdrechu, i ddatblygu, i barhau i ddysgu a chyflawni, hyd yn oed trwy rai cyfnodau anodd iawn; heb hyn, ni fyddwn i byth wedi rhoi cynnig ar gystadleuaeth stori fer Costa.

"Gan mai fi oedd yr unig un yn y rownd derfynol heb waith wedi'i gyhoeddi, roedd cyrraedd y rhestr fer yn gyflawniad enfawr, ac roedd ennill gwobr yn fonws annisgwyl iawn.

"Pan oeddwn yn fy arddegau, nid oeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i'n mynd i'r brifysgol, nawr, ni alla' i ddychmygu fy mywyd heb ddysgu."

Yn y dathliad ar ddydd Mawrth, 24 Mawrth, bydd Joanne yn darllen detholiad o Jellyfish i gynfyfyrwyr eraill ac uwch staff a fydd yn mynychu'r digwyddiad.

Old exterior shot of the Arts & Social Studies Library
Credit: Institutional Archives, Cardiff University.
Interior shot of ASS Library from the 1970s
Credit: Institutional Archives, Cardiff University.

Bydd Prif Swyddog Gweithredol y Brifysgol, Jayne Dowden, a raddiodd gyda gradd BA mewn Astudiaethau Clasurol ym 1978, yn siarad am ei hatgofion o'r llyfrgell a datblygiadau arfaethedig eraill, a bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Llyfrgell, Janet Peters, yn amlinellu sut mae'r gwaith ailwampio wedi bod o fudd i'r Brifysgol.

Dywedodd Jayne, "Mae llyfrgell yn chwarae rôl mor bwysig i fyfyrwyr yn ystod eu bywyd prifysgol. Mae'n lle i astudio, yn lle cymdeithasol ac, yn gynyddol, yn amgylchedd uwch-dechnoleg.

              

"Dyna pam y mae hi mor bwysig ein bod ni'n darparu cyfleusterau deniadol, o'r radd flaenaf sy'n bodloni anghenion myfyriwr modern, yn ogystal â darparu ystod helaeth a manwl o adnoddau i ymchwilwyr.

"Mae'n wych gallu dathlu'r adnewyddiad gyda chymaint o gynfyfyrwyr, ac rwy'n falch bod Joanne Meek wedi dychwelyd yn dilyn ei chydnabyddiaeth yng ngwobrau Costa."

Mae disgwyl i'r uwch academyddion a staff a fydd yn bresennol gynnwys: Yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-ganghellor, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol; Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor, Coleg y Biowyddorau a Gwyddorau Bywyd; Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, TJ Rawlinson; Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth yr Ysgol Gymraeg; Yr Athro Claire Gorrara, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Bydd y digwyddiad, a noddir gan Bibliotheca a D&G interiors, yn cynnwys derbyniad, arddangosiadau a thaith o gwmpas y llawr gwaelod a'r cyfleusterau newydd.

Mae gwaith ailwampio mawr wedi digwydd yn y llyfrgell, gyda nifer o ychwanegiadau, fel adran benthyciadau cyfnod byr newydd, adrannau eistedd hamddenol, socedi ar gyfer gliniaduron, a dosbarthwr llyfrau awtomataidd.

Mae bron hanner miliwn o bobl yn cerdded trwy ddrysau'r llyfrgell hon bob blwyddyn, yn defnyddio cyfleusterau fel WiFi, sgriniau arddangos plasma, a llyfrau a chyfnodolion electronig, yn ogystal â'r casgliadau argraffedig enfawr.

The ASS Library in the 1970s
Credit: Institutional Archives, Cardiff University.

Mae adeilad y llyfrgell wedi bodoli er 1973, yn gwasanaethu rhan enfawr o boblogaeth y Brifysgol, o ieithyddion i haneswyr, diwinyddion i seicolegwyr,  ac mae'n ffurfio rhan o rwydwaith o 14 o lyfrgelloedd ar draws y Brifysgol gyfan.

Mae cynigion uchelgeisiol eraill hefyd.

Bydd y Brifysgol yn gwario oddeutu £450 miliwm ar gam cyntaf cynllun i drawsffurfio ei champws gyda chyfleusterau ymchwil, addysg a myfyrwyr newydd.  

Yn rhan o'r gwaith hwn, bydd llyfrgell ac adnoddau gwybodaeth y Brifysgol ar gampws Cathays yn dod at ei gilydd wrth ochr llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol.

Bydd hyn yn darparu canolbwynt i fyfyrwyr ac ymchwilwyr gyfarfod ac astudio, ac i'r cyhoedd ymgysylltu â'r Brifysgol trwy arddangosiadau a digwyddiadau arbennig.

Bydd amrywiaeth o barthau astudio ansawdd uchel yn cael eu darparu i wneud mynediad at staff a'r llyfrau argraffedig amlddisgyblaeth, cyfnodolion, casgliadau arbennig ac archifau, mor gyfleus â phosibl.