Ewch i’r prif gynnwys

Nifer fawr o bobl wedi dod i weld yr eclips solar rhannol

20 Mawrth 2015

People stood outside the National Museum of Wales viewing the partial solar eclipse

Fe ddaeth amcangyfrif o 1,000 o bobl i wylio eclips rhannol yr haul gydag arbenigwyr o'r Brifysgol.

Roedd myfyrwyr a staff ymhlith y torfeydd mawr yn y digwyddiad cyhoeddus ar risiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Fe ddefnyddiwyd amrywiaeth o offer, gan gynnwys camerâu twll pin, hidlwyr a thelesgop solar i gymryd mantais ar y tywydd da i weld y ffenomen.

Dywedodd Dr Chris North, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, a oedd wedi cydweithio ag Amgueddfa Cymru a'r Sefydliad Ffiseg  ar gyfer y digwyddiad, ei fod yn falch iawn o'r torfeydd a oedd yn  bresennol.

Tynnodd ein ffotograffydd luniau o'r achlysur https://www.facebook.com/media/set/?set=a.10155346186020008.1073741855.36082185007&type=1

View our photographs from the occasion here.