Ewch i’r prif gynnwys

A yw ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn ‘ddosbarth canol’?

7 Awst 2017

Girl playing hopscotch

A yw disgyblion sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn dod o gefndiroedd dosbarth canol gan fwyaf, ac a oes ots?

Bydd Siôn Llewelyn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio'r cwestiynau hyn mewn cyflwyniad ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn ddydd Iau 10 Awst am 16.00.

Dywedodd: “Gan fod modd dewis yr ysgol y mae eich plant am fynd iddi, ceir tybiaeth fod y rhan fwyaf o'r myfyrwyr sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn dod o gefndiroedd breintiedig, dosbarth canol yn bennaf.

“Byddaf yn edrych a yw'r dybiaeth hon yn adlewyrchu tystiolaeth am gyfansoddiad ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

“Bydd hefyd yn ystyried sut mae dewis ysgol yn cyfrannu at y gwahaniaethau yng nghyfansoddiad cymdeithasol ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg de-ddwyrain Cymru.”

Diwylliannol, addysgol ac economaidd

Dywedodd Mr Jones fod rhieni'n cael eu dylanwadu gan nifer o ffactorau wrth benderfynu rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, gan gynnwys rhai diwylliannol, addysgol ac economaidd, a sut mae'r rhain yn ymwneud â'r Gymraeg.

Er bod canfod a yw ysgolion cyfrwng Cymraeg yn “ddosbarth canol” yn gymhleth, dywedodd Mr Jones fod modd dod i rai casgliadau ar sail y data.

“Ar gyfartaledd, mae gan ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru gyfrannau is o ddisgyblion o'r cartrefi tlotaf, oherwydd ar gyfartaledd mae ganddyn nhw ganrannau llai o fyfyrwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim o'u cymharu ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn ne-ddwyrain Cymru,” meddai.

Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddatblygu polisïau i wneud yn siŵr bod plant o bob cefndir cymdeithasol yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.

“Mae archwilio'r mathau o fyfyrwyr sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn bwysig, oherwydd ystyrir bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn hanfodol i adfywio'r Gymraeg yn y rhan yma o Gymru.”

Dr Sion Jones Lecturer

Thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 yw Cysylltu Caerdydd - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.

Gweler rhaglen lawn Prifysgol Caerdydd yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.