Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol yn helpu Caerdydd i ddod yn un o ddinasoedd bwyd cynaliadwy cyntaf y DU

18 Mawrth 2015

Brightly coloured variety of fruits and vegetables

Mae Caerdydd wedi dod yn un o'r dinasoedd cyntaf yn y DU i gael ei chydnabod yn swyddogol am hyrwyddo bwyd cynaliadwy, fel rhan o bartneriaeth eang, a oedd yn cynnwys y Brifysgol.

Mae gwobr efydd Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy yn cydnabod gwaith mewn meysydd fel hyrwyddo bwyd iach i'r cyhoedd, lleihau gwastraff a threchu tlodi bwyd.

Mae Bwyd Caerdydd, a sefydlwyd i helpu Caerdydd i ddod yn ddinas bwyd cynaliadwy, wedi gweithio'n agos â grŵp eang o bartneriaid i sicrhau'r dyfarniad.

Un o'r partneriaid hynny oedd y Brifysgol, sy'n ymroddedig i gynnig bwyd cynaliadwy i staff a myfyrwyr.

Mae gan y Brifysgol Nod Arlwyo Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd ar gyfer ei thri bwyty yn y Prif Adeilad, Trevithick a Lolfa Adeilad Julian Hodge.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y bydd y Brifysgol bob amser yn cael cig o ffermydd sy'n bodloni safonau lles y DU ac yn sicrhau y defnyddir wyau maes. Mae hefyd wedi ymrwymo i gael pysgod o ffynonellau cynaliadwy'n unig, trwy lofnodi Adduned Dinas Pysgod Cynaliadwy.

Mae'r Brifysgol yn rhan o Gyngor Bwyd Caerdydd, a sefydlwyd yn 2012 fel rhan o Fudiad Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae'n cynnwys cyrff fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Dinas Caerdydd, Cymdeithas y Pridd, Banc Bwyd Caerdydd a Wrap Cymru.

Mae'n cyfarfod o leiaf pedair gwaith y flwyddyn i rannu gwybodaeth ac ystyried ffyrdd i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â bwyd, fel gordewdra a gwastraff bwyd.  

Mae un o brosiectau ymgysylltu arloesol y Brifysgol, sef Porth Cymunedol, yn gweithio gyda Bwyd Caerdydd hefyd i ystyried ffyrdd i hyrwyddo bwyd fforddiadwy, iach yn Grangetown.

Mae meini prawf y Wobr Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy yn ymwneud â chwe thema: deiet iach, tlodi bwyd, yr economi leol, gweithgarwch cymunedol, bwyd y sector cyhoeddus, a gwastraff.

Bydd Caerdydd nawr yn gweithio tuag at wobr arian, ac mae'n rhaid dangos bod cyflawniadau a gweithgareddau bwyd cynaliadwy yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae Brighton a Hove, Plymouth a bwrdeistref Lambeth yn Llundain yn cael eu cydnabod, ochr yn ochr â Chaerdydd, fel arweinwyr y Mudiad Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy.