Ewch i’r prif gynnwys

Uchafbwyntiau o Flwyddyn y Brifysgol

19 Mawrth 2015

REF projection onto Main Building

Mae cyflawniadau a cherrig milltir y Brifysgol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi'u cofnodi yn yr Adolygiad Blynyddol a gyhoeddir heddiw (19 Mawrth 2015).

Mae'r Adolygiad yn trin a thrafod cynnydd a llwyddiant yng nghyd-destun pob un o'r blaenoriaethau yn strategaeth Y Ffordd Ymlaen, ac fe'i cyflwynwyd yng nghyfarfod blynyddol y Llys gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.

Dyma rai o'r uchafbwyntiau sydd yn yr Adolygiad Blynyddol:

  • Perfformiad rhagorol y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) lle daeth Caerdydd yn bumed am ragoriaeth ymchwil yn y DU, ac yn ail am effaith;
  • Llwyddiant ym myd y campau i fyfyrwyr a gystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 a Gornest Prifysgolion Cymru;
  • Torri tir newydd ym maes ymchwil gan gynnwys canfod dros 100 o ffactorau risg genetig sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia mewn astudiaeth ryngwladol o dan arweiniad gwyddonwyr Canolfan Cyngor Ymchwil Feddygol y Brifysgol ar gyfer Geneteg a Genomeg; dod o hyd i'r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf o chwyddiant cosmig drwy gydweithrediad BICEP2 sy'n cynnwys yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth; a dadansoddiad o'r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol i lofruddiaeth y Ffiwsilwr Lee Rigby a ddangosodd fod negeseuon llawn casineb a thensiwn hiliol yn llai tebygol o gael eu lledaenu na negeseuon o gariad.

Mae llwyddiant y Brifysgol fel un o 100 cyflogwr uchaf Stonewall ac yn arweiniad Gay dy Degree yn cael sylw hefyd, yn ogystal â buddsoddiad sylweddol y Brifysgol mewn gwella cyfleusterau i fyfyrwyr.

Yn ei gyflwyniad i'r Adolygiad Blynyddol, nododd yr Athro Riordan bwysigrwydd llwyddiant y Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF): "Mae REF 2014 wedi rhoi cyfle godidog i ni roi gwybod i bawb am ba mor wych yw Prifysgol Caerdydd. Drwy REF, rydym wedi llwyddo i gyflawni un o'n dangosyddion perfformiad allweddol mewn modd syfrdanol, a does dim dwywaith y bydd hyn yn dylanwadu ar feysydd eraill yn ein strategaeth."

Talodd yr Athro Riordan deyrnged hefyd i lwyddiant staff y Brifysgol gan gynnwys penodiad yr Athro Sally Holland yn Gomisiynydd Plant Cymru, a gwobr Dr Haley Gomez Fowler am ei chyfraniad nodedig ym maes astroffiseg.

Mae Adolygiad Blynyddol 2014 ar gael yma.

Rhannu’r stori hon