Ewch i’r prif gynnwys

Academydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn cael ei ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol

16 Mawrth 2015

David James

Cadarnhaodd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol ddydd Gwener, 13 Mawrth ei bod wedi rhoi'r dyfarniad Cymrawd i nifer o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw.

Enwyd David James, Athro yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethuriaeth ESRC Cymru, ymhlith y 33 o Gymrodyr newydd.

Mae Cymrodyr yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol yn ysgolheigion ac ymarferwyr amlwg o'r byd academaidd, a'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol 14 o Gymrodyr o fewn ei charfan academaidd erbyn hyn.

Disgrifir y derbynwyr fel unigolion ag ystod eang o arbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys rheoli, cymdeithaseg, seicoleg, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth a'r gyfraith. Mae'r Cymrodyr hyn wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wyddor gymdeithasol ehangach mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys addysg uwch, llywodraeth a chymdeithasau dysgedig.

Roedd llwybr yr Athro James i'r maes gwyddorau cymdeithasol ychydig yn anghonfensiynol – cafodd ei gyflwyno i gymdeithaseg gan gyfaill, pan oedd yn ei 20au cynnar ac yn gweithio fel cerddor. Yn fuan wedyn, aeth i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed. Yn ei yrfa ddilynol, bu'n addysgu yn Llundain, Caerfaddon a Chaerloyw, gan gwblhau Doethuriaeth ran-amser ar yr un pryd. Cafodd ei ddyrchafu i Athro yn 2004 ac mae wedi bod yn gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ers 2011. Mae'r Athro James wedi goruchwylio rhyw 20 o fyfyrwyr i gwblhau eu doethuriaeth yn llwyddiannus ac mae'n parhau i oruchwylio nifer o fyfyrwyr doethuriaeth.

Mae cyhoeddiad yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol yn enwi'r Athro James fel "damcaniaethwr addysgol eithriadol â diddordeb arbennig mewn diwylliannau dysgu a dewis ysgol, hunaniaeth a dosbarth cymdeithasol."

Dywedodd yr Athro James am ei Gymrodoriaeth, "Rwy'n falch iawn o dderbyn y newyddion hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Gymdeithas Ymchwil Addysg Prydain am fy enwebu i."

Gallwch ddarllen y cyhoeddiad llawn ar wefan yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon