Ewch i’r prif gynnwys

Y gwrthbleidiau’n derbyn bil Llywodraeth Cymru yn dilyn newidiadau a hybwyd gan academydd o Brifysgol Caerdydd

13 Mawrth 2015

Social sciences grafiti wall

Derbyniodd ymchwil gan yr Athro Emma Renold, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, glod yr wythnos hon fel un o'r catalyddion ar gyfer newidiadau arwyddocaol i Fil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) gan Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

Mewn llythyr i Jocelyn Davies, llefarydd Plaid Cymru dros fenywod a phlant, cadarnhaodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, y byddai'r arweiniad a luniwyd bellach yn cynnwys nifer o'r darpariaethau y gwnaeth yr Athro Renold, a Grŵp Gweithredu Trais yn erbyn Menywod Cymru a'r bobl ifanc y mae hi wedi gweithio gyda nhw, lobïo amdanynt.

Mae'r Athro Renold wedi cyflwyno tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, ym mhob cam o'r bil, ar bwysigrwydd gosod addysg, a phrofiadau plant a phobl ifanc, wrth wraidd y Bil.

Er iddyn nhw wrthwynebu'r Bil yn flaenorol, oherwydd i gynigion addysgol gael eu hepgor, mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Rhyddfrydwyr wedi newid eu meddyliau ac wedi pleidleisio o'i blaid ar ôl i'r Gweinidog esbonio y byddai darpariaethau addysgol yn cyd-fynd â'r Bil.

Yn benodol, mae'r darpariaethau hyn yn cynnwys cyflwyno addysg mewn ysgolion ar berthnasoedd iach, trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig, a thrais ar sail rhyw a thrais rhywiol. Mae'r llythyr yn ymrwymo hefyd i sefydlu hyrwyddwyr awdurdodau lleol i gynyddu ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched, a newid agweddau tuag at hyn, gan gynnwys sefydlu hyrwyddwyr mewn ysgolion, fel yr awgrymwyd gan y myfyrwyr y mae'r Athro Renold wedi gweithio gyda nhw.

Yn dilyn sicrwydd y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud, derbyniodd y gwrthbleidiau'r Bil Trais yn erbyn Menywod, sy'n golygu dechrau newid ar raddfa gyfan, yn niwylliant ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am oddefgarwch, parch, cydraddoldeb a pherthnasoedd iach.

Ar ôl clywed am y newidiadau a'r darpariaethau addysgol ychwanegol, dywedodd yr Athro Renold, "Rwy'n falch iawn o weld bod pobl ifanc ac addysg wedi cael eu hymgorffori yn fwy canolog yn y Bil. Roedd y myfyrwyr y bûm yn gweithio gyda nhw yn hynod o frwd dros lobïo ar gyfer y newid hwn, felly rwy'n siŵr y byddan nhw wrth eu boddau eu bod nhw wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae'n wych hefyd gweld ymchwil mewn prifysgol a phrosiectau ymgysylltu yn cael effaith uniongyrchol ac yn dylanwadu ar bolisi cenedlaethol ar raddfa mor fawr."

Mae llythyr Mr Andrews yn parhau i gadarnhau y bydd ymchwil yng Nghymru a gyflawnir gan yr Athro Renold yn cael ei defnyddio wrth lunio'r arweiniad statudol yn ei gamau terfynol, ac mae'n ymroddi i amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo'r rhaglen, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, ac eitem agenda ar drais yn erbyn menywod yn y cyfarfod diogelu cenedlaethol nesaf.

Mae'r Athro Renold wedi cael ei gwahodd hefyd – ynghyd â'r bobl ifanc y mae hi wedi gweithio gyda nhw trwy'r ymgyrch 'Rhoi Pwyslais ar Berthnasoedd Iach' – i gynhadledd Cymorth i Fenywod Cymru, ddydd Gwener, 27 Mawrth, i roi cyflwyniad ar bwysigrwydd rhoi pobl ifanc wrth wraidd ymagweddau ysgol gyfan. Bydd pobl ifanc hefyd yn rhannu eu llwyddiannau yng Nghynulliad Ieuenctid Brighter Futures Citizens Cymru a gynhelir ddydd Gwener, 20 Mawrth.

Dywedodd hefyd, "Mae cyrraedd y pwynt hwn wedi golygu llawer o waith caled a phenderfyniad. Mae'r hyn a ddechreuodd gyda grŵp trawsbleidiol (ar blant, rhywioldeb, rhywioli a chydraddoldeb) a syniadau ymchwil cychwynnol ar sut i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed wedi datblygu i fod yn ddarn cynhwysfawr o ymchwil gyfranogol lle daeth hawliau plant a diogelu plant at ei gilydd i ddeall diwylliannau perthnasoedd ifanc plant. Mae cyflwyno'r ymchwil hon yng Nghynulliad Cymru dros y 12 mis diwethaf wedi galluogi profiadau plant o rywiaeth ac aflonyddwch rhywiol i ddatblygu agenda'r polisi.

Mae hon yn enghraifft wych o sut dylai a sut gall plant fod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau ac mae'n gyflawniad pwysig i Gymru. Mae hefyd yn enghraifft glir o sut gall prifysgolion, llunwyr polisïau a'r trydydd sector weithio'n llwyddiannus gyda'i gilydd i achosi newid cymdeithasol. Rwy'n gwybod mai dyma ddechrau cam nesaf y daith yn unig, ond rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cyfrannu at newid mor arloesol ar ôl gweithio yn y maes hwn ers dros 15 mlynedd".

Emma Renold