Ewch i’r prif gynnwys

Tîm Formula Student yn creu hanes

24 Gorffennaf 2017

Cardiff Racing Car on track

Mae tîm ‘Rasio Caerdydd’, sy'n cynnwys 56 o fyfyrwyr o Ysgol Peirianneg y Brifysgol, wedi curo cystadleuwyr o fwy na 130 o dimau prifysgolion eraill ledled y byd.

Drwy'r penwythnos cyfan, cafodd sgiliau adeiladu a pheirianneg y myfyrwyr eu rhoi ar brawf wrth i'r beirniaid graffu'n fanwl ar y car, cyn i'r myfyrwyr fynd â'u car ar y trac i gynnal nifer o brofion cyflymder ac ystwythder.

Cardiff Racing awarded Formula Student Class 1 Overall Winners

Ar ôl i'r holl feirniaid orffen yn hwyr ar nos Sadwrn, cafodd tîm ‘Rasio Caerdydd’ eu henwi'n Enillwyr Cyffredinol Dosbarth 1, gan orffen cyn Prifysgol Birmingham a Phrifysgol Karlstad o Sweden.

Dywedodd Dr Mark Eaton, academydd o Brifysgol Caerdydd oedd yn gysylltiedig â thîm Rasio Caerdydd: “Mae Formula Student yn gystadleuaeth wych ac yn gystadleuol iawn...”

“I ennill digwyddiad o'r fath, mae angen gwaith caled a sgiliau, ac rydym yn eithriadol o falch o'n myfyrwyr am gyflawni hyn. Yn syml, mae'n ganlyniad cwbl wych.”

Dr Mark Eaton Lecturer - Teaching and Research

Gwyneth

Eleni cafodd car y tîm ei enwi'n “Gwyneth”, ar ôl mam y cyn-yrrwr Fformiwla Un, Tom Pryce.

Ganwyd Tom Pryce yn Sir Ddinbych ym 1949, ac roedd yn cael ei ystyried fel seren y dyfodol ym myd ceir rasio. Mae'n parhau i fod yr unig Gymro sydd erioed wedi ennill ras Fformiwla Un. Yn ystod y ddwy flynedd a hanner y bu'n rasio ymhlith cewri'r byd modurol, gorffennodd Pryce ymhlith y chwe uchaf ar naw achlysur.

Pan oedd yn 27, bu farw Pryce yn drasig mewn ras yn Ne Affrica ym 1977 pan darodd ei gar yn erbyn swyddog oedd yn rhedeg ar draws y trac i helpu gyrrwr arall oedd wedi taro yn erbyn y rhwystr.

Cardiff Racing Team with 'Gwyneth'

Trefnir cystadleuaeth Formula Student bob blwyddyn gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac mae'n gwahodd myfyrwyr o ledled y byd i gymryd rhan yn y digwyddiad pedwar diwrnod yn Silverstone.

Mae'r profion y mae'n rhaid i'r ceir eu gwneud wedi eu rhannu'n ddwy adran; statig a dynamig. Caiff y digwyddiadau statig eu hasesu ar sail cost y car, ei gyflwyniad, a'i ddyluniad. Mae'r digwyddiadau dynamig yn cynnwys prawf ffigwr wyth ar lawr llithrig, digwyddiadau cyflymu a gwibio, ac yn olaf, y digwyddiad gwydnwch. Caiff pob tîm sgôr am bob digwyddiad, sy'n cael eu hadio at ei gilydd i roi sgôr derfynol a safle yn y tabl ar gyfer y digwyddiad.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.