Ewch i’r prif gynnwys

Grant o dros £30,000 i staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd

2 Mawrth 2015

Coleg Cymrag Staff

Mae tri aelod o staff yr Ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill dros £30k drwy Gynllun Grantiau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Mae Dr Zoë Morris-Williams a Gaynor Williams o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a Sara Whittam o'r Ysgol Meddygaeth yn mynd i ddefnyddio'r cyllid yma i ddatblygu adnoddau e-ddysgu newydd ar gyfer myfyrwyr is-raddedig sydd yn astudio cyrsiau sydd yn ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y tair yn gallu datblygu adnoddau o safon uchel, pwrpasol a deniadol gyda'r buddsoddiad sylweddol hwn.  

Gobeithir hefyd y bydd yr adnoddau yma yn helpu'r Cymry Cymraeg sydd eisiau astudio cyrsiau iechyd i feithrin sgiliau clinigol a chyfathrebu safonol a fydd o ddefnydd iddynt pan fyddant yn dechrau swyddi yn y byd iechyd yn y dyfodol. 

Dywedodd Gaynor Williams, "Bydd datblygu'r adnoddau yma yn symud ymlaen nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o allu rhoi'r cyfle i fyfyrwyr i astudio teiran o rai o gyrsiau iechyd penodol trwy gyfrwng y Gymraeg."

Rhannu’r stori hon