Ewch i’r prif gynnwys

Dull newydd o drin anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

21 Gorffennaf 2017

Team of researchers with treadmill

Cyn bo hir, gallai dull newydd wneud cyfraniad mawr wrth helpu cyn-filwyr lluoedd arfog Prydain i drechu anhwylder straen wedi trawma (PTSD) o ganlyniad i brosiect ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Forces in Mind Trust (FiMT) sy’n ariannu’r astudiaeth hon, a’i nod yw helpu cyn-filwyr sydd heb ymateb i’w triniaethau PTSD presennol drwy ddefnyddio dulliau ysgogi gweledol a ffisegol i'w helpu i fynd i'r afael â’u profiadau trawmatig.

Bydd yr astudiaeth yn para dwy flynedd ac yn ymchwilio i effeithiolrwydd therapi newydd o’r enw 3MDR. Yn rhan o’r therapi hon, mae cleifion yn cerdded ar felin draed wrth ryngweithio â chyfres o ddelweddau a ddewisir ganddynt sy’n ymwneud â’u trawma, a’u harddangos ar sgrîn fawr. Nod y therapi yw helpu cleifion i ddysgu sut i wella drwy ddod wyneb yn wyneb â’u hatgofion trawmatig yn llythrennol.

Yr driniaeth a ffefrir ar gyfer PTSD

Therapi seicolegol sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig yw’r driniaeth a ffefrir ar gyfer PTSD, a gall fod yn fuddiol iawn, ond yn anffodus ceir cryn ymwrthedd i’r driniaeth.  Awgryma canlyniadau rhagarweiniol o waith ymchwil a wnaed yn yr Iseldiroedd y gallai 3MDR helpu cyn-filwyr â PTSD sy’n ymwneud ag ymladd ac yn gwrthod triniaeth.  Nod yr astudiaeth newydd yw pennu pa mor effeithiol yw 3MDR i drin cyn-filwyr Prydeinig sydd â PTSD sy’n ymwneud ag ymladd ac yn gwrthod triniaeth, yn ogystal ag ystyried pa ffactorau sy’n effeithio ar ganlyniadau.

O dan arweiniad yr Athro Jonathan Bisson o’r Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, cynhelir yr astudiaeth mewn labordy a ddyluniwyd yn arbennig i gyflwyno’r therapïau. Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd dod i gysylltiad â rhith-wirionedd, sy’n cael ei ategu gan gerdded, cerddoriaeth a lluniau effaith uchel, yn gwaredu osgoi gwybyddol - strategaeth ymdopi a all gyfrannu at symptomau PTSD sy’n gwaethygu.

Two people operating treadmill

Dywedodd yr Athro Jonathan Bisson, Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae angen mynd ati ar unwaith i ddod o hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer cyn-filwyr nad ydynt yn ymateb i driniaethau cychwynnol presennol neu’n methu eu derbyn...

Ray Lock CBE, Chief Executive of Forces in Mind Trust, added: “Improving our understanding of veterans’ mental health and effective treatments has been a priority of the Forces in Mind Trust since the Trust’s inception. PTSD has a major impact on the quality of life of a small minority of veterans and it is important that we look at new and viable ways of helping some of those people whose mental health issues can be the hardest to treat.  This is an exciting and innovative approach justifying further exploration which we are very pleased to support...”

“Mae tua 4% o gyn-filwyr Prydain yn dioddef PTSD. Mae hyn yn aml yn achosi gofid mawr iddyn nhw a’r bobl o’u hamgylch, ynghyd â chael effaith ariannol a chymdeithasol sylweddol arnynt. Gallai’r driniaeth newydd gynnig gobaith newydd i gyn-filwyr â PTSD sy’n wynebu’r posibilrwydd o fywyd ag anhwylder cronig a pharhaus.”

Yr Athro Jonathan Bisson Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Cyffrous ac arloesol

Ychwanegodd Ray Lock CBE, Prif Weithredwr y Forces in Mind Trust: “Mae gwella ein dealltwriaeth o iechyd meddwl cyn-filwyr a thriniaethau ar eu cyfer wedi bod yn flaenoriaeth i’r ymddiriedolaeth ers y cychwyn cyntaf. Caiff PTSD effaith fawr ar ansawdd bywyd lleiafrif bach o gyn-filwyr, ac mae’n bwysig edrych ar ffyrdd newydd ac ymarferol o helpu rhai o’r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl a all fod y rhai anoddaf i’w trin.  Dyma ddull cyffrous ac arloesol o gyfiawnhau gwaith ymchwil pellach, ac mae’n bleser ei gefnogi.”

Yn ystod yr astudiaeth, mae ymchwilwyr yn asesu symptomau PTSD mewn cleifion sy’n cael y driniaeth yn rheolaidd, i fesur ei heffeithiolrwydd glinigol. Caiff y canfyddiadau eu cyflwyno mewn adroddiad ar ddiwedd y prosiect.

Rhannu’r stori hon

Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.