Ewch i’r prif gynnwys

Mam “ysbrydoledig” yn graddio o Brifysgol Caerdydd

20 Gorffennaf 2017

Amy Davies

Mae menyw o Gwmbrân oedd yn arfer bod o dan ofal, wedi graddio o Brifysgol Caerdydd eleni â gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol. Cwblhaodd ei gradd er gwaethaf caledi sylweddol ac wrth ofalu am chwe phlentyn maeth.

Nid oedd Amy Davies, 33 oed, sy’n byw ym Mhont-y-pŵl ar hyn o bryd, ac a dreuliodd lawer o’i phlentyndod mewn gofal maeth ar ôl cael ei symud rhwng nifer o ysgolion, erioed wedi ystyried ei hun yn academaidd nac yn rhywun oedd yn haeddu mynd i brifysgol.

Ar ôl gorffen yr MA dwy flynedd o hyd mewn Gwaith Cymdeithasol y llynedd, mae hi bellach yn weithiwr cymdeithasol amser llawn i awdurdod lleol.

“Bob dydd pan fydda i’n mynd i’r gwaith, prin y galla i gredu mod i’n weithiwr cymdeithasol cymwys,” meddai.

“Roeddwn i bob amser yn meddwl mai rhywbeth i bobl beniog oedd prifysgol, a bod angen llawer o gymwysterau Safon Uwch a TGAU. Fodd bynnag, pan welais y byddai Prifysgol Caerdydd yn derbyn ymgeiswyr â phrofiad perthnasol yn lle graddau, ro’n i’n teimlo bod gen i ddigon o brofiad i gael lle ar y cwrs...”

“Rhoddais bopeth i mewn i’r radd a ches i gymorth ar hyd y ffordd gan staff anhygoel a chymwynasgar yn y Brifysgol. Gyda lwc, bydd fy stori yn gallu ysbrydoli pobl ifanc o gefndir tebyg i gyflawni eu nodau a pheidio â rhoi’r gorau i unrhyw uchelgais oherwydd mae unrhyw beth yn bosibl gyda gwaith caled.”

Amy Davies


Dechreuodd Amy gael gofal maeth pan oedd yn 11 oed a bu mewn nifer o gartrefi gwahanol cyn symud i mewn â’i nain pan oedd yn 16 oed. Cyfarfu â’i gŵr Gavin, yn 19 oed a dechreuodd y ddau feithrin plant yn eu 20au.

Mae’r ddau’n gofalu am bump o blant rhwng 7 a 22 oed ar hyn o bryd. Mae ganddynt hefyd fab 8 oed eu hunain ac maen nhw ceisio mabwysiadu plentyn arall ar hyn o bryd.

Diwrnod arbennig iawn

Bydd Amy yn mynd i’w seremoni graddio yr wythnos yma (dydd Iau, 20 Gorffennaf) gyda Gavin, sy’n athro ysgol gynradd, a’i nain, sydd hefyd yn ofalwr maeth, a’i mam.

“Mae graddio yng nghwmni fy nheulu cyfan yn mynd i fod yn ddiwrnod arbennig iawn,” meddai.

Mae Amy yn un o nifer o fyfyrwyr sy’n graddio yr wythnos yma sydd wedi elwa ar ymdrechion parhaus Prifysgol Caerdydd i roi mynediad a chymorth i bobl o grwpiau agored i niwed neu wedi’u tangynrychioli.

Amy Davies with husband and son
Amy and her husband Gavin with their 8-year-old son

Mae ymrwymiad i recriwtio a chadw'r myfyrwyr mwyaf galluog o bob cefndir yn ganolog i ymdrechion y Brifysgol i addysgu ei myfyrwyr hyd at y safonau uchaf, a'u cefnogi wrth iddynt symud ymlaen at ddysgu'n annibynnol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cymorth anstatudol y Brifysgol wedi ehangu i gynnwys cymorth i’r sawl sy’n gadael gofal a myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o’u teuluoedd, cyn-filwyr sydd am ailddechrau astudio a cheiswyr lloches.

Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: “Rydw i wrth fy modd yn gweld Amy yn graddio o’r Brifysgol wythnos yma...”

“A hithau o gefndir anodd, mae hi wedi goresgyn cynifer o rwystrau ac wedi cwblhau gradd ôl-raddedig ochr yn ochr â gofalu am chwe phlentyn maeth. Mae hi’n unigolyn gwirioneddol ysbrydoledig.”

“Ni yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ymgysylltu â’r rhai sy’n gadael gofal ac rydym yn parhau i chwalu rhwystrau a chynnig cymorth i’r bobl sydd ei angen fwyaf. Rydym am wneud yn siŵr y caiff pawb fel Amy gyfle i fanteisio ar eu gallu addysgol a mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus.”