Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm yn dathlu Blwyddyn y Chwedlau

19 Gorffennaf 2017

Cynhaliwyd Symposiwm yn trafod Pedair Cainc y Mabinogi yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf 2017.

Trefnwyd y Symposiwm gan yr Athro Sioned Davies, arbenigwr rhyngwladol ar y Mabinogi, fel rhan o ddathliadau Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.

Daeth panel o siaradwyr adnabyddus ynghyd i drafod amrywiaeth o themâu ac elfennau gwahanol ar hanes, ideoleg a chyd-destun y chwedlau (yn y Gymraeg a’r Saesneg):

  • Dr Simon Rodway (Prifysgol Aberystwyth): The Four Branches of the Mabinogi and Celtic Mythology
  • Yr Athro Brynley F Roberts: Pedeir Keinc y Mabinogi – tybed?
  • Dr Juliette Wood (Prifysgol Caerdydd): Rhiannon: Twenty-First Century Goddess?
  • Dr John Bollard: Contextualising the Mabinogi: Then and Now
  • Yr Athro Sioned Davies: Gair, Delwedd ac Ideoleg: Mabinogi Oes Fictoria
  • Dr Diana Luft: The Eighteenth-Century Rehabilitation of the Mabinogi

Ar ddiwedd y Symposiwm cafwyd darlleniad gan Yr Athro Margaret Lloyd (Coleg Springfield, Massachusetts) o’i chyfrol ddiweddaraf Travelling on My Own Errands: Voices of Women from The Mabinogi.

Dywedodd yr Athro Davies: “Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn y Chwedlau, rwyf wedi cyfrannu at nifer o wahanol weithgareddau a phrosiectau sydd yn ymwneud â chwedlau’r Mabinogi. Mae’r gweithgareddau hyn yn amrywio’n fawr, o gynghori ar greu tapestrïau, a fydd yn darlunio’r chwedlau, ar gyfer y llys canoloesol arfaethedig yn Sain Ffagan i helpu lansio bwydlen newydd o goctels yn y brifddinas sydd wedi ei hysbrydoli gan gymeriadau’r Mabinogi!

“Roedd y Symposiwm yn gyfle gwych i groesawu arbenigwyr yn y maes a thrafod syniadau newydd am y Mabinogi. Y bwriad yw cynnal symposiwm arall, ar un o’r chwedlau canoloesol eraill, ymhen y flwyddyn.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.