Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu camau cyntaf AGENDA

18 Gorffennaf 2017

AGENDA Postcard

Cynhaliwyd y gynhadledd AGENDA addysgu yng Nghaerdydd yn ddiweddar i ddathlu’r  camau cyntaf y mae’r canllaw yn eu cymryd i helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o faterion rhywioldeb yn eu hysgolion.

Ymhlith y siaradwyr yr oedd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland; Rhian Bowen-Davies, Cynghorydd Cenedlaethol Cymru ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod; a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Dan arweiniad yr Athro Emma Renold, mae Agenda yn ganllaw ar-lein rhad ac am ddim, a ddatblygwyd gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, i gynnig adnoddau a syniadau ar sut y gallant drafod a herio anghydraddoldebau rhywiol a thrais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, a hynny mewn ffordd ddiogel a chreadigol.

Agenda What Jars You
Beth sy’n dân ar eich croen chi?

Agenda yw’r unig becyn adnoddau yng Nghymru, a’r Deyrnas Unedig, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae'n adnodd dwyieithog, rhad ac am ddim a gellir ei ddarllen ar-lein neu ei lawrlwytho o wefan AGENDA, ynghyd ag amrywiaeth o adnoddau ychwanegol, gan gynnwys cardiau post a phosteri.

Yn ystod y gynhadledd, soniodd yr Athro Renold am yr effaith y mae Agenda wedi’i chael hyd yma, gan gynnwys gweithdai yng nghynhadledd Cymorth i Ferched Cymru, hyfforddiant yr heddlu a digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Ers ei lansio ym mis Tachwedd, mae ysgolion a grwpiau ieuenctid wedi croesawu Agenda, gyda pherfformiadau drama, siarad cyhoeddus, a digwyddiadau eraill.

Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education, receives messages from primary school pupils
Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, yn derbyn negeseuon gan ddisgyblion ysgol gynradd

Yn ystod y gynhadledd, cafwyd perfformiadau gan fyfyrwyr o ysgolion o bob cwr o’r wlad wedi'u hysbrydoli gan eu rolau fel llysgenhadon Agenda, gan gynnwys cynyrchiadau drama, cyfansoddiadau gwreiddiol a phrosiectau celf.

Roedd hyn yn cynnwys perfformiad o ‘Face to Face’ gan ferch 13 oed o’r enw Charlie, cân a ysgrifennodd am barch, amwysedd a’r heriau sydd ynghlwm â thyfu i fyny. Dilynwyd perfformiad Charlie gyda ffilm fer gan Lauren o Ysgol Tonyrefail a oedd yn cofnodi effaith y gymdeithas gyfoes ar ddealltwriaeth o hunaniaethau LGBTQI.

Drwy gydol y diwrnod, roedd athrawon a gweithwyr proffesiynol yn cael cyflwyniadau a hyfforddiant ar bynciau Agenda gan gynnwys gweithredaeth ffeministaidd; perthnasoedd iach; hawliau LGBT; diwylliant y hun-lun (selfie); gemau digidol a rhagor.

GCSE Art Project Lauren Agenda
Prosiect celf TGAU gan Lauren o Ysgol Tonyrefail, sy'n dangos effaith labelu

Noddwyd y gynhadledd AGENDA Addysgu gan Brifysgol Caerdydd a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru), ac fe’i chefnogwyd gan NSPCC/Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, a Phrosiect Sbectrwm Hafan Cymru.

Yr Athro Renold yw cadeirydd y grŵp cynghori arbenigol Cymru ar adnoddau addysgu ar ddatblygu perthnasau iach. Sefydlwyd y panel gan Kirsty Williams, a bydd yn cynnig cyngor a chymorth ar faterion yn ymwneud â chyflwyno addysg ar berthnasau iach yn y cwricwlwm.

Darllen blog am y diwrnod.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.