Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Astudiaethau Crefft Ymladd yn edrych tua’r dyfodol

17 Gorffennaf 2017

Peter Lorge
Peter Lorge opens the Martial Arts Studies Conference 2017.

Mae trydedd Cynhadledd Astudiaethau Crefft Ymladd wedi dod i ben yn dilyn tri diwrnod o gyflwyniadau, paneli ac anerchiadau.

Daeth dros 60 o gynrychiolwyr cenedlaethol a rhyngwladol i’r gynhadledd, ac fe’i hagorwyd gan Peter Lorge o Brifysgol Vanderbilt. Yn ei brif araith, “Dyfeisio ‘crefft ymladd traddodiadol’”, gofynnodd a oedd modd i unrhyw grefft ymladd honni ei bod yn 'ddilys'.

Dadleuodd Lorge mai hanes annisgwyl o fyr sydd gan hyd yn oed y crefftau ymladd mwyaf hynafol yn ôl pob sôn, ac mae dyfeisiau diweddar dros ben yw rhai o’r crefftau hynafol sy’n cael eu hystyried fel y rhai hynaf.

Cafwyd prif areithiau gan Sixt Wetzler, Meaghan Morris, Benjamin N. Judkins a Gitanjali Kolanad hefyd.

Yn ystod y gynhadledd, cafwyd cydnabyddiaeth o ddatblygiadau ym maes Astudiaethau Crefft Ymladd ers y gynhadledd gyntaf yn 2015.

Yr Athro Paul Bowman o Brifysgol Caerdydd sydd wedi arwain y maes hwn hyd yma. Yr Athro Bowman a sefydlodd Rhwydwaith Ymchwil Astudiaethau Crefft Ymladd a ariennir gan AHRC a’i nod yw llunio maes amlddisgyblaethol drwy gysylltu ymchwilwyr ac ymarferwyr.

Meddai’r Athro Bowman "Mae'r gynhadledd eleni wedi denu ystod daearyddol a disgyblaethol hyd yn oed ehangach o bobl i gymryd rhan. Mae llawer wedi meithrin cysylltiadau cryf ac yn cynhyrchu partneriaethau newydd o ganlyniad i hynny.

"Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cael ei fynegi a'i ledaenu mewn pedair ffordd: cyfnodolyn Martial Arts Studies, rhwydwaith AHRC, cyfres lyfrau a nifer o gynadleddau cysylltiedig."

Daeth yr Athro Bowman i'r casgliad "Rydym wir yn adeiladu ein maes ymchwil yn barhaus. Fodd bynnag, mae hynny’n golygu ein bod hefyd yn gofyn cwestiynau anodd ynghylch pa cysyniadau, delweddau a geirfaoedd sydd fwyaf addas i gyfleu materion fel gwybodaeth, sgiliau, techneg a phrofiad sydd wedi’i grynhoi. Mae'n hynod gyffrous."

Bydd fideos o rai cyflwyniadau ar gael ac yn cael cyhoeddusrwydd drwy @MAStudies maes o law a rhifyn pedwar o gyfnodolyn Martial Arts Studies sydd ar gael ar-lein drwy fynediad agored ac wedi’i adolygu gan gymheiriaid.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.