Ewch i’r prif gynnwys

Engage-HD

17 Gorffennaf 2017

Man and woman using breathing apparatus

Mae canlyniadau o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn awgrymu y gallai cleifion sydd â chlefyd Huntingdon (HD) aros yn weithredol am gyfnod hirach os ydyn nhw'n dilyn rhaglenni ymarfer sydd wedi'u cynllunio'n dda a'u cefnogi'n broffesiynol.

Anhwylder genetig yw HD sy'n effeithio ar yr ymennydd ac sy'n raddol achosi i bobl golli eu gallu i symud a meddwl. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw driniaeth (gan gynnwys meddyginiaethau a therapïau eraill) y gellir eu defnyddio i arafu neu atal y clefyd rhag datblygu. Credir y gallai ymarfer a gweithgaredd corfforol fod yn ffordd dda a rhad i helpu pobl gydag HD i gadw eu gallu i symud a meddwl cyhyd ag y bo'n bosibl.

Datblygodd ymchwilwyr ar yr astudiaeth Engage-HD raglen ymarfer corff i bobl sydd â HD gan gynnal treial clinigol i asesu a oedd yn bosibl cynorthwyo cyfranogwyr i ddilyn y rhaglen.

Cynhaliwyd Engage-HD mewn wyth canolfan HD arbenigol ar draws y DU gan gynnwys 46 o bobl gydag HD:

  • Rhoddwydd 22 o bobl yn y grŵp 'ymarfer corff'
  • Rhoddwyd 24 o bobl mewn grŵp 'cyswllt cymdeithasol'.

Bu'r grŵp ymarfer corff yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol am gyfnod o 16 wythnos, gyda chymorth hyfforddwr oedd yn eu cefnogi gyda 6 ymweliad cartref a 3 galwad ffôn. Arweiniwyd yr ymarferion gan DVD ymarfer a grëwyd yn arbennig a llyfr gwaith. Roedd y tîm astudio'n mesur i weld a oedd yr hyfforddwyr yn cynorthwyo'r bobl i wneud yr ymarferion yn iawn a pha mor dda oedd y bobl yn y grŵp ymarfer yn cadw at y gweithgaredd corfforol uwch.

Ni chafodd y grŵp cymdeithasol yr hyfforddiant ymarfer corff na'r deunyddiau ymarfer, ond derbynion nhw'r un faint o ymweliadau cartref a galwadau ffôn.

Man performing exercise routine


Gan ddefnyddio system casglu data hygyrch newydd ar y we, mesurodd yr ymchwilwyr bedwar maes allweddol:

  • meddwl
  • symud
  • ansawdd bywyd
  • meddyliau'r unigolyn ynghylch pa mor dda mae'n gallu gwneud pethau.

Doedd dim gwahaniaeth rhwng y grwpiau ymarfer a chymdeithasol o ran gallu'r cyfranogwr i symud neu feddwl. Fodd bynnag adroddodd y rhai yn y grŵp ymarfer corff lefelau uwch o weithgaredd corfforol a mwy o hyder i allu gwneud ymarfer corff.

Gellir defnyddio'r wybodaeth hon nawr i gynllunio astudiaethau mwy o faint i weld a allai rhaglen ymarfer helpu pobl sydd â HD i gadw mor ffit ac iach â phosibl am gyfnod hirach.

Dywedodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth yn y Ganolfan Treialon Ymchwil am astudiaeth Engage-HD: “Ar ôl dros 5 mlynedd o weithio i sefydlu'r cysyniad hwn, rydym ni'n hynod o falch i fod mewn sefyllfa i gefnogi pobl sydd â Chlefyd Huntingdon yn realistig i fod yn weithgar er gwaethaf yr heriau sy'n gysylltiedig â'u clefyd...”

“Rydym ni'n ddyledus i'n cyllidwyr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ogystal â'n cydweithwyr mewn safleoedd ymchwil yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a'n cyfeillion yng Nghymdeithas Clefyd Huntingdon Cymru a Lloegr - ond yn bennaf oll i'r cyfranogwyr yn yr ymchwil a'n helpodd ni i wneud y prosiect hwn yn llwyddiant.”

Yr Athro Monica Busse

“Rydym ni nawr yn gobeithio adeiladu ar yr ymchwil i helpu i ddarparu rhaglenni ymarferol ar sail tystiolaeth a allai fod o fudd i gleifion HD.”

Cyhoeddir ‘Physical Activity Self-Management and Coaching Compared to Social Interaction in Huntington Disease: Results from the ENGAGE-HD Randomized, Controlled Pilot Feasibility Trial’ yn Physical Therapy.

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.