Ewch i’r prif gynnwys

Arweinwyr busnes y dyfodol

24 Chwefror 2015

Students at a Business School event

Ddydd Mercher 11 Chwefror 2015, cynhaliodd Ysgol Fusnes Caerdydd gynhadledd a thaith ryngweithiol i dros 70 o ddisgyblion Blwyddyn 7 o ysgolion Caerdydd a'r cylch.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion newydd sbon y Brifysgol, sydd wedi'i chynllunio i ddarparu'r amgylchedd addysgu a dysgu gorau posibl i raddedigion busnes y dyfodol.

Croesawyd disgyblion o Goleg Caerdydd a'r Fro, Ysgol Uwchradd Caerllion, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr i'r digwyddiad, o'r enw 'Where you can go with Business', gan yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae'r digwyddiad yn rhan o Brosiect Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd, sydd â'r nod o wella ymgysylltiad ag ysgolion uwchradd a'u disgyblion. Ariannwyd y digwyddiad gan Gyngor Ymchwil y DU.

Yn ystod y sesiwn hanner diwrnod, cafodd y disgyblion gyfle i fwynhau darlith ffug fywiog, taith o amgylch y cyfleuster newydd, gan gynnwys yr Ystafell Fasnachu, a sesiwn holi ac ateb yng nghwmni panel o staff academaidd a llysgenhadon myfyrwyr.

Y gweithdy yn yr Ystafell Fasnachu oedd uchafbwynt y diwrnod, gan gynnig cyfle i ddisgyblion brofi cyffro ac angerdd y llawr masnachu. Gan weithio mewn parau – un fel dadansoddwr cyfryngau ac un fel masnachwr – 'prynodd a gwerthodd' y disgyblion stociau a chyfrannau gan ddefnyddio data go iawn, a dewis pryd i brynu, pryd i werthu a thracio eu helw a'u colledion.

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener: "Mae'n bwysig i ni, fel Ysgol a Phrifysgol, i ymgysylltu ag ysgolion a disgyblion yn uniongyrchol ac i roi blas iddynt o addysg uwch a'u helpu nhw i benderfynu ar eu huchelgeisiau a'u llwybrau gyrfaol yn y dyfodol. Mae dewis yr hyn yr hoffech chi ei wneud a'r llwybr y dymunwch ei ddilyn ar ôl gadael yr ysgol neu'r coleg yn 17 neu 18 oed yn gallu bod yn brofiad brawychus.

"Mae'n bwysig pwysleisio'r ystod o gyfleoedd gyrfaol amrywiol sydd ar gael, yn enwedig wrth ddewis llwybr ym myd busnes. Mae cyflwyno'r diwydiannau a'r sectorau gwahanol i ddisgyblion - o'r byd economaidd i gyfrifeg ac o reoli gweithrediadau i farchnata a strategaethau - a'u cyflwyno mewn ffordd ddilys yn arfer gwerthfawr. Y gobaith yw bod y disgyblion a fynychodd y digwyddiad wedi mwynhau'r profiad ac wedi gadael gyda gwell dealltwriaeth o'r hyn maen nhw eisiau ei wneud yn y dyfodol a sut mae modd cyflawni hynny."