Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ymchwil arloesol Cymreig â’r nod o ostwng yn sylweddol nifer y marwolaethau ymhlith beicwyr

13 Tachwedd 2014

helmet and laptop

Mae prosiect cydweithredol arloesol wedi'i lansio yng Nghymru i wella perfformiad helmedau diogelwch beicio gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D arloesol a thechnoleg uwchgyfrifiadura.

Mae'r prosiect, dan arweiniad cydweithwyr yn yr Ysgol Peirianneg, Dr Peter Theobald a Dr Philip Martin, yn archwilio sut y gellir defnyddio deunyddiau a argraffir mewn 3D i gynhyrchu helmedau beicio ysgafn dros ben, wedi'u teilwra i wella eu perfformiad diogelwch yn ystod gwrthdrawiadau.

Rhwng 2005 a 2013, cafodd dros 26,000 o feicwyr naill ai eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Prydain, a nod y prosiect hwn yw lleihau'r niferoedd hyn yn y dyfodol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ymchwil ac Arloesi Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru, mae'r ymchwilwyr yn defnyddio uwchgyfrifiadura i optimeiddio strwythurau mecanyddol yn nyluniadau helmedau diogelwch beicio a argraffir mewn 3D; a chymharu effeithiau gwahanol ddyluniadau a deunyddiau a argraffir mewn 3D ar berfformiad mewn gwrthdrawiadau.

Hefyd, nod y prosiect yw gwella canllawiau diogelwch presennol ar gyfer dyluniadau helmedau beicio yn y DU a thu hwnt, gan fod canllawiau presennol yn ystyried perfformiad mewn gwrthdrawiadau yn unig. Mae'r ymchwilwyr yn edrych ar y gofyniad i ddatblygu canllawiau rheoleiddiol ar gyfer gwerthuso perfformiad helmedau beicio yn ystod gwrthdrawiadau lle mae gwrthdrawiadau 'cylchdroadol' yn digwydd hefyd – sef pan mae'r ymennydd yn cylchdroi y tu mewn i'r benglog yn dilyn gwrthdrawiad.

Mae ymchwilwyr yn defnyddio uwchgyfrifiaduron i ddatblygu helmedau a argraffir mewn 3D i wella strwythur helmedau diogelwch i atal anffurfiad helmedau a throsglwyddiad egni i'r pen. Y gwrthdrawiad hwn a chylchdroad cymharol yr ymennydd y tu mewn i'r benglog sy'n achosi'r anafiadau mwyaf trawmatig i'r ymennydd. Credir bod gadael i'r ymennydd a'r benglog barhau i symud, a chael eu harafu ar yr un pryd, yn lleihau'r risg o anafiadau i'r ymennydd yn dilyn gwrthdrawiad.

Dywedodd Dr Philip Martin, sy'n Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mae'n frawychus pa mor debyg i'w gilydd mewn gwirionedd y mae helmedau diogelwch beicio traddodiadol sydd ar gael ar y farchnad. Petasech yn mynd i siop helmedau gyda swm diderfyn o arian, byddech yn dod allan gyda'r un peth yn ei hanfod, mewn perthynas â diogelwch, gan nad oes cynnyrch gwell ar gael. Yr unig wahaniaethau a geir mewn gwirionedd yw o ran siâp, lliw a dyluniad – sef estheteg yn unig. Mae popeth yn cael ei wneud allan o bolystyren, nad yw'n cynnig digon o ddiogelwch yn ystod gwrthdrawiadau 'arosgo'.

"Mae'r defnydd o dechnoleg uwchgyfrifiadura uwch wedi'n cynorthwyo i gyflymu ein hymchwil i lunio canlyniadau llawer cyflymach nag unrhyw system a ddefnyddiais yn flaenorol. Ar hyn o bryd, heb y galluoedd uwchgyfrifiadura hyn, byddai'n rhaid i ni gynhyrchu pob dyluniad strwythurol newydd yn gorfforol, a phrofi pob un ohonynt wedyn mewn labordy, er mwyn gwerthuso eu potential o ran perfformiad diogelwch mewn gwrthdrawiad. Byddai hyn yn ddwys dros ben o ran amser a chost, gan wneud y prosiect yn anymarferol.

"Rydym yn falch iawn bod Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru wedi rhoi'r cyfle i ni symud ymlaen â'n prosiect gyda'r cyllid hwn, gan fod cyfle sylweddol i wella perfformiad, nid o ran helmedau diogelwch beicio'n unig, ond pob cyfarpar diogelu personol – ac mae hyn yn rhywbeth sydd â'r potensial i achub llawer o fywydau."

Dywedodd yr Athro Rick Hillum, sef Prif Swyddog Gweithredol Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru:

"Mae gan y prosiect ymchwil arloesol hwn y potensial i achub miloedd o fywydau ledled y byd ac rydym yn falch i gefnogi ei waith gwych.

"Wrth iddo fynd yn anos cael hyd i gyllid ymchwil, rydym yn falch i allu cynnig y cymorth hwn ar gyfer prosiectau ar flaen y gad mewn ymchwil gwyddonol, gan roi mynediad i gefnogaeth academaidd i fusnesau a'u cyflwyno i dechnoleg uwchgyfrifiadura o safon fyd-eang.

"Gyda'n cymorth ni, gall busnesau ymgysylltu â'r byd academaidd a hybu eu gwybodaeth a'u perfformiad, gan eu helpu i gystadlu ar raddfa fyd-eang."

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru wedi ariannu pum prosiect cydweithredol ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, gan helpu busnesau i ymgysylltu â'r byd academaidd a gwella sgiliau eu gweithwyr i ddefnyddio pŵer uwchgyfrifiadura. Mae prosiectau eraill sy'n elwa ar y cyllid hwn yn cynnwys ymchwil arloesol i wella llwybrau bysiau yng nghanol dinas Caerdydd a gwaith chwyldroadol i ddod â gwelliant sylweddol i waith adsefydlu ar ôl strôc.

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru, sy'n cefnogi'r prosiectau hyn ac yn darparu'r dechnoleg uwchgyfrifiadura arloesol i'w cefnogi, yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r fenter wedi ymrwymo i hybu economi Cymru drwy ddarparu rhywfaint o'r dechnoleg gyfrifiadura fwyaf datblygedig yn y byd i ymchwilwyr academaidd a busnesau.

Rhannu’r stori hon